Mae Michel Barnier wedi dweud iddo gael “trafodaeth ddefnyddiol” gyda phrif negodwr Prydain, David Frost, wrth geisio sbarduno’r trafodaethau Brexit.

Dywedodd prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd y bydd y ddwy ochr yn “parhau i drafod mewn ewyllys da” yn dilyn pryd o fwyd yn Rhif 10 nos Fawrth (Gorffennaf 7).

Roedd hwn yn “gyfle da” i’r ddwy ochr gyfarfod yn anffurfiol yn ôl Rhif 10.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog ddweud wrth Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel, fod y Deyrnas Unedig yn barod i gerdded i ffwrdd heb gytundeb fasnach ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud dro al ôl tro y gellid adael y cyfnod trawsnewid ‘ar delerau tebyg i Awstralia’ pe bai’n dod i hynny.

Nid oes gan Awstralia gytundeb fasnach ffurfiol gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r trafodwyr yn “gweithio’n galed am gytundeb teg” gyda’r Deyrnas Unedig yn ôl Michel Barnier.

Mae Boris Johnson wedi honni na fydd yn gadael i’r trafodaethau barhau i mewn i’r Hydref, gan ddadlau bod busnesau a dinasyddion Prydain angen pendantrwydd ar y ffordd ymlaen cyn hynny.

Os nad yw’r ddwy ochr yn dod i gytundeb erbyn diwedd y flwyddyn, neu os nad yw Prydain yn ogyn am estyniad i’r cyfnod pontio, bydd Prydain yn gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau heb unrhyw gytundeb.