Mae Stryd Downing wedi dweud eu bod yn barod i fasnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ffurfiol wrth i Ganghellor yr Almaen Angela Merkel alw ar Frwsel i gynyddu paratoadau Brexit heb gytundeb.

Mae trafodaethau’n parhau ym Mrwsel rhwng y timau sy’n cael eu harwain gan brif negodwr Prydain, David Frost, a phrif negodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier.

“Dim llawer” o gynnydd

Ond yn ôl Angele Merkel does “dim llawer” o gynnydd wedi cael ei wneud yn y trafodaethau a bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd fod yn barod am y posibilrwydd “na fydd cytundeb”.

Mae’r Deyrnas Unedig yn mynnu eu bod eisiau “gweithio’n gadarnhaol” gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Rydym yn credu bod modd cyrraedd cytundeb fasnach rydd ond rydym hefyd wedi bod yn hynod o glir ein bod yn barod am beth bynnag ddaw erbyn diwedd y flwyddyn, boed hynny yn gytundeb fasnach rydd neu berthynas fasnach ar sail yr un termau sydd gan Awstralia ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.

Does gan Awstralia ddim cytundeb fasnach ffurfiol gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Rhagfyr 31

Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud bod y Deyrnas Unedig wedi “dysgu lot fawr” wrth baratoi am Brexit heb gytundeb tua diwedd Hydref 2019 “a byddwn yn sicrhau ein bod yn barod i ddod allan o’r cyfnod trawsnewid ar Ragfyr 31”.

Mae’r trafodaethau’n parhau.