Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod am gwblhau ffordd liniaru’r M4, er ei fod yn fater datganoledig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am fwrw ymlaen â’r cynllun yn ôl ym mis Mawrth 2019.

“Dydw i ddim yn ystyried bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i ddiddymu’r tir sydd yn amodol ar y Gorchymyn Prynu Gorfodol,” meddai Mark Drakeford ar y pryd.

Mae Mark Drakeford wedi dweud sawl gwaith ers hynny na fydd tro-pedol ar y penderfyniad hwn.

A gan mai mater datganoledig ydyw, dyw hi ddim yn glir sut y byddai Boris Johnson yn mynd ati i gwblhau’r cynllun.

“Rwyf wedi gwneud fy mhenderfyniad ac mae’n benderfyniad sydd wedi ei ddatganoli,” meddai Mark Drakeford fis Rhagfyr.

“Does gan y Prif Weinidog ddim dylanwad o gwbl dros ffordd liniaru’r M4. Nid dyna sut mae’r system yn gweithio”.

Ond mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 8), dywedodd Boris Johnson:

“Fe wnawn ni bethau mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu gwneud, megis dadflocio Twneli Brynglas ac adeiladu’r ffordd osgoi M4 sydd wedi bod ei angen ers tro”.

Mae geiriau Mr Johnson wedi esgor ar ymateb chwyrn ar Twitter, gyda llawer yn ei alw’n ymosodiad ar ddatganoli.

Ac eraill yn ei atoffa nad oes ganddo fandad dros drafnidiaeth ac yn awgrymu y dylai’r Ceidwadwyr roi’r cynnig yn e maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.