Cafodd cartrefi gofal eu “gadael i lawr yn wael” gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig coronafeirws, yn ôl adroddiad.
Dywedodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Senedd Cymru fod Gweinidogion yn rhy araf yn lansio trefn brofi ar gyfer staff a phreswylwyr ar ddechrau’r argyfwng.
Mae ffigurau o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (yr ONS) yn dangos y bu 663 o farwolaethau Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru hyd at 12 Mehefin, 28% o’r holl farwolaethau Covid yng Nghymru.
Mae’r adroddiad ar effaith Covid-19 yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 8 Gorffennaf), yn dweud bod aelodau’r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch nifer y marwolaethau mewn lleoliadau gofal.
“Mae cartrefi gofal yn gofalu am rai o aelodau hynaf a mwyaf agored i niwed ein cymdeithas. Maent yn haeddu cael eu hamddiffyn mewn argyfwng iechyd cenedlaethol, ond maent wedi cael eu gadael i lawr yn wael yn ystod yr argyfwng hwn,” meddai’r adroddiad.
“Ein barn ni oedd bod dull cychwynnol Llywodraeth Cymru o gynnal profion mewn cartrefi gofal yn wallus, a [bod y Llywodraeth] yn rhy araf wedyn wrth ymateb i’r argyfwng cynyddol…”
Ni chafodd preswylwyr cartrefi gofal â symptomau a chleifion a ryddhawyd o’r ysbyty eu profi’n rheolaidd yng Nghymru nes i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, newid y polisi profion ar 29 Ebrill, dros ddeufis ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau cloi.
Dywedodd yr adroddiad fod y Llywodraeth “wedi cymryd gormod o amser” i weithredu mesurau profi priodol ar gyfer cartrefi gofal, ac er bod y penderfyniadau cychwynnol i ddim ond profi preswylwyr a staff pe baent yn dangos symptomau wedi’i newid, daeth hynny “gryn dipyn yn hwyrach nag yn Lloegr a’r Alban”.
Tystiolaeth Undeb Llafur y GMB a Fforwm Gofal Cymru
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi tystiolaeth gan Undeb Llafur y GMB, sy’n honni bod staff gofal cymdeithasol wedi cael cyflenwadau cyfarpar diogelu personol “truenus o annigonol”, eu bod wedi’u cyfyngu i fenig a ffedogau plastig, a oedd yn eu gadael yn gored i “risg uchel o haint” a bod hynny wedi cynyddu’r risg o heintiadau “a nifer y marwolaethau yn y cartrefi gofal”.
Yn eu tystiolaeth, beirniadodd Fforwm Gofal Cymru y penderfyniad (a wnaed ar 2 Mai) i ddim ond ymestyn y profion i breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal gyda 50 neu fwy o welyau, gan ddweud bod y rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru “yn 30 neu’n 40 o welyau”.
Argymhellion
Mae’r Pwyllgor Iechyd bellach wedi nodi 28 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth pe ceid argyfwng tebyg yn y dyfodol, gan ddweud bod y pandemig wedi dangos “gwendidau difrifol” yn ymateb y wlad.
Mae’r argymhellion yn cynnwys sicrhau bod profion mewn cartrefi gofal yn cael eu cynnal yn “rheolaidd a systematig” ac yn cael eu gweinyddu gan unigolion hyfforddedig yn hytrach na dibynnu ar weithwyr yn defnyddio pecynnau profi cartref.
Ymhlith yr argymhellion eraill mae cyflymu canlyniadau profion i’w cael yn barod o fewn 24 awr, storio digon o gyfarpar diogelu priodol at y dyfodol, a sicrhau y gall archfarchnadoedd mawr fodloni gofynion siopa am fwyd ar-lein i bobl sy’n hunanynysu.
“Mae’n rhaid i ni fod yn fwy parod”
Dywedodd Dr Dai Lloyd ASC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’n rhaid i ni fod yn fwy parod […] i wynebu’r heriau sydd o’n blaen, yn enwedig yn ystod y gaeaf sydd i ddod. Nid yw ail don yn anorfod os caiff gwersi eu dysgu o’r pedwar mis diwethaf.”
Yn sgil yr adroddiad, dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn ei hanfod yn cadarnhau’r hyn roedden ni’n ei wybod eisoes a’r hyn y mae Fforwm Gofal Cymru wedi bod yn ei ddweud ers misoedd: bod cartrefi gofal, eu trigolion, a’u staff, yn anfwriadol, wedi bod collateral damage mewn ymgais i amddiffyn y GIG rhag cael ei foddi.”
“Dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan Fforwm Gofal Cymru fod 42% o gartrefi gofal o’r farn eu bod wedi cael eu rhoi dan bwysau i dderbyn cleifion o ysbytai a oedd â Covid-19, neu oedd heb gael eu profi.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dydyn ni ddim yn derbyn canfyddiad y Pwyllgor bod preswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu gadael i lawr yn wael. Mae ein dull gweithredu wedi bod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gyda’r unig amcan o achub bywydau, ble bynnag y mae pobl yn byw.
“Mae Pwyllgor Iechyd y Senedd wedi canolbwyntio ar brofi, sy’n un rhan yn unig o’n hymateb ni. Rydym wedi darparu ystod eang o gymorth, gan gynnwys staff nyrsio ychwanegol lle bo angen, a chyfarpar diogelu am ddim i gartrefi gofal ledled Cymru.
“Mae pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi gweithio’n ddiflino i amddiffyn rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i nodi a darparu unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen i ymateb i’r firws. ”
Ymateb Prif Weithredwr y GIG
Wrth siarad yn sesiwn coronafeirws y wasg ddydd Mercher (8 Gorffennaf), dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Dr Andrew Goodall fod swyddogion iechyd “wir wedi trïo” sicrhau bod ffocws ar gartrefi gofal o’r cychwyn un ac wedi ceisio dysgu am y feirws wrth fynd ymlaen:
“Mae wedi bod yn bwysig iawn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu parhau i ddarparu canllawiau polisi a chyngor i’r system, [a hynny gan] ei seilio ar y dysgu a’r profiadau diweddaraf, a sicrhau ein bod yn edrych ar hynny’n gyfannol ar draws y GIG a’r system ofal,” meddai.