Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 4) na fydd cynllun M4 i’r de o Gasnewydd yn mynd yn ei flaen.

Yn ôl adroddiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford nid yw’r cynllun gwerth £1.4bn yn mynd i ddigwydd.

“Dydw i ddim yn ystyried bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i ddiddymu’r tir sydd yn amodol ar y Gorchymyn Prynu Gorfodol,” meddai.

“Nid wyf o’r farn y byddai’n briodol nac yn gyfleus i wneud y Cynlluniau a’r Gorchmynion eraill.”

Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn trafod ei benderfyniad yn y Cynulliad brynhawn heddiw.

Y cynllun

Roedd maniffesto etholiad 2016 Llafur yn gado creu ffordd M4 yng Nghasnewydd – cynllun gafodd ei gynnig am y tro cyntaf cyn belled yn ôl a 1991.

Cafodd hi ei chynnig er mwyn llacio traffig yn ardal Casnewydd ac o gwmpas twneli Bryn-glas ble mae oedi yn ystod oriau prysur.

“Dyletswydd”

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, mae “dyletswydd” ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i sicrhau fod cynllun lliniaru’r M4 yn mynd yn ei flaen.

“Fe fydd effaith negyddol os fydd Mark Drakeford yn rhwystro’r cynllun. Mae’r arian ar gael ac mae’r Trysorlys wedi ei gymeradwyo,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ar Bost Cyntaf bore heddiw.

“Ni all economi de Cymru ffynnu heb y gwelliannau yma. Nid mater pleidiol yw hwn… mae dyletswydd ar Mark Drakeford i wrando ar y dadleuon o blaid buddsoddi yn y cynllun yma.”