Mae’r awdurdodau yn Tsieina wedi gosod rheolau diogelwch llymach o gwmpas ardal Sgwâr Tiananmen yn ninas Beijing, wrth iddyn nhw ddisgwyl i brotestwyr ddynodi 30 mlynedd ers y gyflafan yno.
Bu’n rhaid i ymwelwyr â’r lleoliad yn ystod seremoni codi’r faner y bore yma (dydd Mawrth, Mehefin 4) wynebu strydoedd caeedig a phresenoldeb cynyddol o swyddogion.
Yn 1989, y gred yw bod cannoedd, os nad miloedd o bobol wedi cael eu lladd pan anfonodd Llywodraeth Tsieina’r fyddin i glirio’r protestwyr o Sgwâr Tiananmen.
Mae dynodi’r achlysur wedi cael ei wahardd yn Tsieina, ac mae’r Llywodraeth hyd yn oed wedi atal unrhyw fynediad at wybodaeth ar-lein ynghylch y digwyddiad.
Ond mae disgwyl i filoedd fod yn bresennol mewn gwylnos yn ninas Hong Kong nos Fawrth, lle mae’r awdurdodau yn llai llym.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Tsieina wedi ceisio sicrhau nad oes modd cysylltu ag unigolion sy’n cael eu hystyried yn fygythiad iddyn nhw