Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi y bydden nhw’n defnyddio camerâu arbenigol newydd yn eu ceir.

Nhw fydd y cyntaf yng ngwledydd Prydain i ddefnyddio camerau Axon Fleet 2, fydd yn cael eu gosod mewn 31 o gerbydau gan gynnwys rhai traffig a cheir arfog.

Fe fydd y cytundeb, gafodd ei arwyddo ddechrau eleni, yn mynd am bum mlynedd.

Mae’r camerâu yn rhai newydd sbon yng ngwledydd Prydain fydd yn caniatáu i swyddogion Heddlu Dyfed Powys lawrlwytho tystiolaeth fideo yn syth drwy system weiarles.

Ei bwrpas yw rhoi oriau o amser ychwanegol i swyddogion gan alluogi iddynt osgoi gorfod lawrlwytho’r deunydd eu hunain.

“Mae’r dechnoleg yn gwella atebolrwydd i ni ymhellach fel gwasanaeth ac yn helpu i amddiffyn ein swyddogion yn ystod amseroedd bregus wrth gludo carcharorion a phatrolio ein lonydd, yn aml are u pen eu hunain,” meddai Catherine Davies, cydlynydd Axon gyda Heddlu Dyfed Powys.