Fe fydd Aelodau Seneddol yn torri record heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 4) wrth ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin i barhau â sesiwn Brexit.
Mae 713 diwrnod wedi bod ers i’r drafodaeth ar adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau ar Fehefin 21, 2017.
Hon felly fydd y sesiwn Seneddol hiraf ers sefydlu gwledydd Prydain gan y Deddfau Uno yn 1800.
Roedd y record gynt yn cael ei ddal gan sesiwn 2010-12 wnaeth parhau am 707 o ddyddiau ers Agoriad y Wladwriaeth ar Fai 25, 2010, i’r gohiriad ar Fai 1 2012.
Mae’r Senedd yn cael ei ohirio unwaith y flwyddyn fel arfer, ac yn ail-agor yn dilyn Agoriad y Wladwriaeth arall ac Araith y Frenhines.
Ond yn 2017, fe gyhoeddodd y Llywodraeth y bydd y sesiwn ar Brexit yn mynd ymlaen am ddwy flynedd i basio’r cyfreithiau allweddol sydd eu hangen i adael yr U de Ewropeaidd.
Fodd bynnag, gyda Thŷ’r Cyffredin dal heb wneud penderfyniad ar Brexit nid oes arwydd y bydd y sesiwn yn dod i ddiwedd.