Mae cyn-Ysgrifennydd Tramor llywodraeth Prydain yn dweud bod yr amser wedi dod i gytuno gyda’r Unol Daleithiau a gosod rheolau llymach ar gwmni technoleg Huawei.
Yn ôl William Hague mae’n hynod bwysig bod yr “ymddiriedaeth ddofn” rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd Prydain yn aros yn un iach.
Mae’r Prif Weinidog Theresa May a’r arlywydd Donald Trump yn cyfarfod heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 4).
Ar hyn o bryd mae gan Huawei ganiatad Theresa May i adeiladu rhannau o rwydwaith 5G gwledydd Prydain, tra mae Donald Trump wedi ei wahardd yn llwyr.
Pryder yr Unol Daleithiau yw y bydd gwybodaeth yn cael ei rannu gyda Huawei ac felly gyda China gan alluogi iddynt ysbio.
Bydd disgwyl i Huawei fod yn bwnc trafod yn ystod y cyfarfod ar Downing Street.