Mae Boris Johnson wedi lansio apêl yn erbyn yr alwad iddo ymddangos gerbron llys i wynebu honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Yn ôl y dyn busnes a’r ymgyrchydd Marcus Hall, 29 – sy’n ceisio erlyn – roedd Boris Johnson wedi dweud celwydd yn ystod refferendwm Ewrop yn 2016 trwy ddweud bod gwledydd Prydain yn rhoi £350m yr wythnos i’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Marcus Ball wedi codi dros £200,000 mewn ymgyrch ar-lein i erlyn Boris Johnson.
Ond mae cyfreithwyr yr Aelod Seneddol, wnaeth arwain yr ymgyrch Leave, yn dadlau bod y galwad i lys yn anghyfreithlon.
Yn ôl hwythau mae angen i’r camau cyfreithiol yn erbyn Boris Johnson gael eu gohirio tan mae cais adolygiad barnwrol wedi cael ei wneud.
Os oes adolygiad barnwrol yn cael ei gymeradwyo bydd barnwr uwch yn dewis os yw galwad i lys yn gyfreithlon, ac os oes lle i gamau pellach.