Mae rhagor na 80 o gaeau pêl-droed cyhoeddus yng Nghymru wedi cael eu colli ers 2010, yn ôl ymchwil gan undeb llafur.
Daw’r ffigyrau ar drothwy’r Cyngres Gyffredinol GMB, a fydd yn agor ddechrau’r wythnos nesaf (dydd Sul, Mehefin 9).
Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth a wnaed i bob un awdurdod lleol yng ngwledydd Prydain, roedd yna 82 yn llai o gaeau cyhoeddus yng Nghymru yn y cyfnod 2017/18 o gymharu â naw mlynedd yn ôl.
Mae GMB yn rhoi’r bai am y gostyngiad mewn rhif ar doriadau Llywodraeth Prydain dros y blynyddoedd diwethaf.
Dim arian gan gynghorau lleol
“Mae cynghorau wedi gweld eu cyllidebau yn cael eu haneri ers 2010,” meddai Tim Roache, Ysgrifennydd Cyffredinol GMB. “Maen nhw’n ei chael hi’n anodd i ariannu’r pethau sylfaenol sy’n cadw pob dim i fynd.
“Rydyn ni wedi byw mewn degawd heb ei ail ym myd pêl-droed Cymreig, pan chwifiodd Caerdydd ac Abertawe faner Cymru yn yr Uwch Gynghrair, pan ddychwelodd Dinas Casnewydd i’r gynghrair pêl-droed, a phan gafodd y tîm cenedlaethol Ewros bythgofiadwy yn 2016.
“Cymharwch hynny gyda’r cyflwr gwael y mae pêl-droed ar lawr gwlad, lle mae cyfleon ar gyfer y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn diflannu.”