Mae pryder na fydd cwmni Ineos Automotive yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr i adeiladu ffatri newydd wedi’r cyfan – ac y gallen nhw droi eu sylw, yn hytrach, at safle newydd yn Ffrainc.

Dywed y cwmni bod trafodaethau ar y gweill â chwmni ceir Mercedes-Benz ynghylch safle Hambach ym Moselle.

Roedd disgwyl i’r cerbyd pedair olwyn newydd, Grenadier, gael ei adeiladu yng Nghymru y flwyddyn nesaf, gyda hyd at 200 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y lle cyntaf, a hyd at 500 yn y pen draw.

Roedd adroddiadau’r llynedd fod y cwmni, sy’n eiddo i’r Brexitiwr Syr Jim Ratcliffe, am symud i Monaco fel na fyddai’n rhaid talu trethi.

Dywed y cwmni fod yr opsiwn o symud i’r cyfandir wedi dod yn sgil y coronafeirws, a’u bod nhw’n ystyried ai agor dau safle newydd – gyda’r llall ym Mhortiwgal – fyddai’r dewis cywir ar hyn o bryd.

Fe fyddai’n ergyd arall i’r dref yn dilyn y penderfyniad i gau ffatri Ford yn yr hydref, gan golli 1,700 o swyddi.

‘Siomedig’

Mae Vaughan Gething wedi mynegi ei siom ynghylch yr adroddiadau.

“Os ydyn nhw’n bwrw iddi ac yn penderfynu peidio â buddsoddi, yna fe fyddai’n gam arwyddocaol yn ôl i Ben-y-bont ar Ogwr ac yn ddiwrnod anodd iawn i bobol sy’n edrych tua’r dyfodol,” meddai.

“Mae yna sgyrsiau ar y gweill rhwng Ken Skates, Gweinidog yr Economi, a’r cwmni a dw i’n credu y bydd ganddo fe fwy i’w ddweud yn yr oriau i ddod.”