Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau agor toiledau cyhoeddus o heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 7).
Dywed y Cyngor eu bod nhw wedi cyflwyno nifer o newidiadau “i helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel” wrth ailagor y toiledau cyhoeddus.
Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngu ar nifer y bobol fydd yn cael mynd i mewn i adeilad y toiledau ar yr un pryd, gyda system un allan, un i mewn yn y cyfleusterau lleiaf.
Bydd rhai wrinalau, sinciau a chuddyglau wedi eu cau i ffwrdd er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol.
Bydd y toiledau’n cael eu glanhau’n fwy aml a bydd yr oriau agor yn cael eu cyfyngu i 9yb-5yp.
“Byddwn yn agor ein toiledau cyhoeddus fesul cam dros yr wythnosau i ddod, i sicrhau bod y cyhoedd a’r staff yn cael eu cadw’n ddiogel,” meddai’r Cynghorydd Greg Robbins, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Chludiant.
“Rydym yn gofyn i breswylwyr ac ymwelwyr barchu’r cyfleusterau a’n staff ni, ac i fod yn barod i ddilyn y cyfarwyddiadau.
“Ein bwriad yw y bydd y rhan fwyaf o doiledau ar agor erbyn diwedd mis Gorffennaf.”
Y toiledau cyntaf i gael eu hagor yw:
- Capel Curig – Snowdon View
- Bae Colwyn – Y Promenâd Canolog
- Deganwy – Marine Crescent
- Y Gogarth – Canolfan Ymwelwyr
- Llandrillo Yn Rhos – Horizon Shine
- Llanfairfechan – Promenâd
- Llanfairfechan – Rhandir Hedd
- Llanrhos – Mynwent Lawnt
- Llanrwst – Mynwent Cae’r Melwr
- Penmaenmawr – Mynwent Tan Y Foel
Bydd mwy o doiledau’n agor drwy gydol mis Gorffennaf.