Fydd dim rhaid i fyrddau iechyd Cymru dalu £470m gawson nhw gan Lywodraeth Cymru yn ôl, meddai Vaughan Gething yn ei gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 7).

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd fod yna chwe mlynedd bellach ers i fyrddau iechyd Cymru gytuno i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd.

Eleni, mae’r cyfrifon yn dangos bod pedwar bwrdd iechyd wedi methu gweithio o fewn eu cyllideb ers 2014 ac at ei gilydd, mae ganddyn nhw wariant ar fenthyciadau gwerth mwy na £600 miliwn.

Yn ôl y Llywodraeth, maen nhw wedi darparu cymorth ariannol o hyd at £470 miliwn i’r Byrddau Iechyd dros y cyfnod hwn.

Rhwystr

“Mae lefel y gwariant ar y benthyciadau hanesyddol yma’n amlwg yn rhwystr i’r Gwasanaeth Iechyd wrth iddyn nhw ddechrau cynllunio at y tymor o adfywio ar ôl y pandemig, ac yn dal y byrddau iechyd penodol yma yn ôl rhag llwyddo i gyflawni sefydlogrwydd ariannol,” meddai Vaughan Gething.

Hyd yma, y disgwyl oedd i’r byrddau iechyd hyn ad-dalu’r benthyciadau yn ogystal â’r gefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth, ond fe gyhoeddodd Vaughan Gething heddiw ei fod wedi penderfynu na fydd angen talu’r gyllideb o £470 miliwn yn ôl.

Yn ogystal â hyn, wedi i Fwrdd Iechyd lwyddo i fantoli eu cyllideb dros dair blynedd, fydd dim angen iddyn nhw ad-dalu gwariant ar fenthyciadau hanesyddol.

“Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r sefydliadau hyn gan eu helpu nhw i ganolbwyntio ar y adfywiad uniongyrchol o’r coronafeirws, yn ogystal ag edrych i’r dyfodol a gweithio tuag at sefydlogrwydd ariannol,” meddai Vaughan Gething.