Mae cyfanswm o 50,000 o farwolaethau yn ymwneud â’r coronafeirws wedi cael eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr rhwng Rhagfyr 28 2019 a Mehefin 26 2020, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn Lloegr, gan gynnwys marwolaethau ddigwyddodd hyd at Fehefin 26 ond a gafodd eu cofrestru hyd at Orffennaf 4, bu 47,705 o farwolaethau yn ymwneud â’r coronafeirws.

Ond y ffigwr cyfatebol gafodd ei adrodd gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd 38,982.

Yng Nghymru, gan gynnwys marwolaethau ddigwyddodd hyd at Fehefin 26 ond wedi’u cofrestru hyd at Orffennaf 4, roedd 2,438 o farwolaethau yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond mae ffigyrau’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos 1,510 o farwolaethau.

Cartrefi Gofal                              

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 14,163 o bobol wedi marw mewn cartrefi gofal yn Lloegr hyd yma, tra bod 680 wedi marw yng Nghymru.

Mae’r Comisiwn Safon Gofal (CQC), sy’n darparu ffigyrau marwolaethau yn ymwneud â’r coronafeirws mewn cartrefi gofal yn Lloegr, wedi dangos bod 12,327 o’r marwolaethau wedi digwydd rhwng Ebrill 10 a Gorffennaf 3.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), sy’n darparu ffigyrau marwolaethau yn ymwneud â’r coronafeirws mewn cartrefi gofal yng Nghymru, wedi dangos bod 498 o breswylwyr wedi marw rhwng Mawrth 17 a Gorffennaf 3.