Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod e’n barod i weithredu pwerau cyfreithiol i gau unrhyw gyfleusterau sy’n fygythiad i iechyd cyhoeddus.

Daw sylwadau’r Ysgrifennydd Iechyd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfarwyddiadau ataliol newydd i’r diwydiant prosesu cig a bwyd er mwyn osgoi achosion o’r coronafeirws yn y dyfodol.

“Ond os yw’r cyfarwyddiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn cael eu dilyn, ni fydd angen cymryd unrhyw gamau pellach,” meddai yn ei gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 7).

“Mae hon yn sefyllfa gyfnewidiol, ac mi fydda i’n parhau i adolygu’r mesurau fydd o bosib eu hangen yn y dyfodol.”

Achosion gweithfeydd cig

Yn ôl Vaughan Gething, mae ffatri’r 2 Sisters yn Llangefni wedi ail agor ddydd Sul, Gorffennaf 5, ar ôl ail gychwyn yn raddol ddydd Gwener, ond mae pob ymwelydd a chontractiwr yn y ffatri yn parhau i gael eu profi.

Cadarnhaodd fod 218 o achosion bellach yn gysylltiedig â’r gweithle, a bod tîm rheoli’r feirws yn parhau i fonitro’r sefyllfa i wneud yn siŵr nad yw’r achosion yn lledaenu i’r gymuned.

Ond hyd yn hyn, mae’n ymddangos bod yr achosion wedi aros o fewn safle’r ffatri, meddai.

Yn Rowan Foods yn Wrecsam, mae 289 o achosion wedi eu cadarnhau sydd yn gynnydd o 6 ers yr wythnos diwethaf.

“Mae pawb wedi cael cynnig prawf a does dim tystiolaeth o’r feirws yn lledaenu i’r gymuned ehangach, heibio i’r rhai sydd yn gweithio ar y safle a’u cysylltiadau agosaf,” meddai Vaughan Gething.

Ers mis Ebrill mae 135 o achosion yn safle Kepak, Merthyr Tudful, ond does dim tystiolaeth fod unrhyw ledaeniad pellach o’r feirws o fewn y gweithle.

Dim marwolaethau dri diwrnod yn olynol

Ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 6) am y tro cyntaf ers canol Mawrth, doedd dim un farwolaeth o ganlyniad i’r coronafeirws wedi ei chyhoeddi yng Nghymru.

Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu ar hyn o bryd fod tri diwrnod yn olynol wedi mynd heibio heb i’r un person yng Nghymru farw o’r coronafeirws.

Mae hon yn “foment bwysig yn ein taith”, meddai, ond dyw e ddim am godi gobeithion am ein bod yn fwy na thebyg o weld rhagor o achosion ac “yn anffodus, mwy o farwolaethau o ganlyniad i’r coronafeirws.”