Bydd gweithwyr yn y DVLA yn pleidleisio ar streicio dros bryderon iechyd a diogelwch parhaus sy’n gysylltiedig â’r argyfwng coronafeirws.

Bydd aelodau Undeb PCS yn pleidleisio yn ystod yr wythnosau nesaf ynghylch a ddylid lansio ymgyrch o weithredu diwydiannol.

Mae’r undeb wedi bod yn pwyso am dorri lefelau staffio yn swyddfa’r asiantaeth drwyddedau yn Abertawe yn dilyn nifer o achosion o Covid – ac un farwolaeth.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS Mark Serwotka: “Mae’n sgandal bod y DVLA wedi mynnu bod dros 2,000 o aelodau o staff yn dod i’r gwaith bob dydd, er gwaethaf yr achosion o Covid – yr achosion mwyaf mewn swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

“Mae gweithwyr wedi mynegi eu hofn go iawn wrth fynd i mewn i waith.

“Mae’r pleidleisio ar streic yn dangos y dicter y mae gweithwyr yn ei deimlo am eu triniaeth – a bydd PCS hefyd yn eu cefnogi mewn unrhyw hawliadau unigol a wnânt i gadw eu hunain yn ddiogel.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: “Mae’n siomedig gweld bod staff y DVLA yn cael eu hannog i gyflawni gweithredu diwydiannol gan y PCS. Ni fydd y cam gweithredu hwn ond yn creu pryder diangen i’r rhai sy’n gwneud gwaith hanfodol ar y safle.

“Mae iechyd a diogelwch staff y DVLA yn hollbwysig i ni a dyna pam mae protocolau trwyadl ar waith, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol rhwng gweithfannau a swigod staff a reolir yn dynn i leihau cyswllt.

“Mae’r protocolau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ac mae’r DVLA yn parhau i gymryd camau ychwanegol lle bynnag y bo modd i sicrhau diogelwch ei staff, gan gynnwys agor swyddfa ychwanegol yn ddiweddar a chynnig profion llif ochrol i staff ar y safle.

“Mae hyn i gyd wedi arwain at nifer isel iawn o achosion ymhlith staff ar hyn o bryd.”

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Rhybudd o streicio gan weithwyr y DVLA dros ffrae ddiogelwch

Gweithredu diwydiannol ym mhencadlys y DVLA gam yn nes, medd undeb

Grant Shapps yn gwadu fod gweithwyr DVLA Abertawe wedi cael cyfarwyddyd i ddiffodd apiau Profi ac Olrhain

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth wedi mynnu ei fod yn cymryd yr achosion “o ddifrif”

Llywodraeth Prydain yn gweithio’n “ddi-stop” i fynd i’r afael ag achosion Covid-19 yn y DVLA, medd Boris Johnson

Cafodd mwy na 500 o achosion eu nodi ar y safle yn Abertawe rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Coronafeirws yn y DVLA: Mark Drakeford yn anfodlon ag ymateb gweinidogion San Steffan

Dywed undeb PCS ar ran staff y DVLA fod nifer o weithwyr yn ofni mynd i mewn i’r swyddfa