Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu ymateb y Gweinidog Tai, Julie James, i gwestiynau ynghylch ail gartrefi ac wedi ei chyhuddo o “israddio’r argyfwng”.
Yr wythnos diwethaf mi gyhoeddodd y Llywodraeth ddatganiad ar y mater gan ddweud nad oeddent wedi diystyru’r posibilrwydd o wneud newidiadau i’r gyfraith, ond y byddai’n rhaid cael dealltwriaeth lawn o’r effaith bosibl cyn gwneud hynny.
Yn ystod ei chwestiwn i’r gweinidog, mi wnaeth Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, dynnu sylw at bryderon ynghylch diffygion y gellir manteisio arnyn nhw (yr hyn a elwir yn loopholes).
Mae yna bryderon bod rhai perchnogion tai haf yn rhentu eu tai i eraill am y cyfnod byrraf posib er mwyn cael eu hystyried yn fusnes – ac felly’n gymwys i dalu llai o dreth.
Mewn ymateb dechreuodd Julie James gwestiynu diffiniad y gair loophole.
“Dw i ddim yn siŵr fy mod yn cytuno mai loophole yw hyn,” meddai.
‘Israddio’r argyfwng’
“Mae ymgais y Gweinidog i israddio’r argyfwng, gan ddweud na fyddai hi’n defnyddio’r term loophole i ddisgrifio’r bwlch cyfreithiol sy’n galluogi i berchnogion ail dai beidio talu premiwm treth cyngor yn awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad o realiti’r argyfwng ar lawr gwlad,” meddai Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith.
“Tra roedd y Gweinidog yn ymddangos yn eithaf cydymdeimladol ar y mater, y gwir amdani yw na all eiriau clên brynu tŷ.
“Mae Julie James yn Weinidog mewn llywodraeth, ac mae gan Lywodraeth Cymru, yn yr achos hwn, nifer o bwerau sydd angen eu gweithredu nawr er budd ein cymunedau, ond am ryw reswm maent yn dewis peidio eu defnyddio.”
Llywodraeth Cymru yw’r unig weinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig sydd wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Gellir cymhwyso premiwm o hyd at 100%.
O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm – a bennir ganddyn nhw – nid oes yr un ohonynt yn codi mwy na 50%.
“Beth sydd ei angen gan y Llywodraeth ydi gweithredu, nid rhagor o eiriau gwag – yn enwedig o ystyried fod y broblem hon wedi bodoli ers degawdau,” ychwanegodd Osian Jones.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’n gyson am gyfres o fesurau y dylid eu cymryd i unioni’r argyfwng, gan gynnwys rhoi grymoedd i awdurdodau lleol daclo’r argyfwng tai.
Bydd y Pwyllgor Deisebau hefyd yn trafod deiseb ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ar Chwefror 9 sy’n galw arnynt i roi’r mater yn nwylo’r Senedd gyfan mewn cyfarfod llawn.