Mae pecyn cymorth £2.25m y Llyfrgell Genedlaethol yn “dod gydag amodau” ac mae disgwyl “newidiadau sylweddol” i weithgarwch y corff.

Dyna ddywedodd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn ystod dadl am gyllid y llyfrgell yn y Senedd brynhawn ddoe.

Fore ddydd Mercher cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n buddsoddi cyfanswm o £6.2m yn y Llyfrgell a’r Amgueddfa Genedlaethol (gyda £3.95m yn mynd i’r amgueddfa).

A daeth y cam yma yn sgil pryderon am sefyllfa ariannol y Llyfrgell, ac adroddiadau bod swyddi yn y fantol. Yn siarad gerbron Aelodau o’r Senedd dywedodd y gweinidog bod yna ddisgwyliadau ar y corff.

“Mae’r cyllid ychwanegol a gynigir yn dod gydag amodau,” meddai.

“Mae’r amodau yma, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, yn golygu bod yna fwy o ymroddiad i amrywedd, i gynaliadwyedd, i drawsnewid digidol, ac i’r gwaith o ymestyn allan i gymunedau ar hyd a lled Cymru.

“Nid adeilad ar ben bryn yn Aberystwyth yw’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae llyfrgell genedlaethol i fod yn adeilad a fydd yn gwasanaethu cenedl gyfan, ac rwy’n credu y bydd yna fodd inni ddysgu o berfformiad yr amgueddfa yn y cyfeiriad yna.

“Mae gan y llyfrgell gyfle arbennig, dwi’n meddwl, i gyfrannu i ddod â ni mas o sefyllfa gyda’r clwy cyhoeddus dychrynllyd yma.”

Yn y gorffennol mae’r gweinidog wedi dweud y dylai’r Llyfrgell a’r Amgueddfa ddilyn esiampl Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn Sir Gaerfyrddin o ran “bod â phartneriaeth gref iawn â phob math o gymunedau, sefydliadau rhanbarthol, a chwmnïau ledled Cymru”.

Disgwyl “newidiadau sylweddol”

Ym mis Medi y llynedd cyhoeddwyd casgliadau ‘adolygiad teilwredig’ (gan banel annibynnol) i sefyllfa ariannol y llyfrgell.

A gan gyfeirio at y ddogfen, mi rannodd Dafydd Elis-Thomas ragor o sylwadau plaen am y sefyllfa.

“Dwi’n awyddus iawn i nodi fy mod i’n disgwyl gweld newidiadau sylweddol yn y llyfrgell wrth inni ddelio ag argymhellion eraill yr adolygiad teilwredig,” meddai.

“Mae’n ddigon hawdd inni ganmol pwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol a grëwyd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

“Ond mae’n allweddol bwysig bod y sefydliadau yna bellach yn addas ac yn effeithlon ac yn gymwys ar gyfer chwarter cyntaf a chanol yr unfed ganrif ar hugain.

“A dyna pam ein bod ni wedi buddsoddi mewn darpariaeth ddigidol fel un o’n blaenoriaethau ar gyfer y llyfrgell.”

Y ddadl

Taniwyd y ddadl yn y Senedd gan Blaid Cymru, ac roedd y Blaid yn cynnig bod AoSau yn cyfleu eu pryderon am sefyllfa ariannol y corff (ac yn galw am weithredu gan y Llywodraeth).

Pasiwyd y cynnig â diwygiad y Blaid Lafur: “[Mae’r llyfrgell] wrthi’n cynnal ymgynghoriad [ac mae] Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.”

Cyflwynwyd y cynnig gwreiddiol gan Siân Gwenllian, AoS Plaid Cymru, ac yn ystod y ddadl mi rannodd ei gwrthwynebiad at benderfyniad y Llywodraeth i gyhoeddi’r arian funud olaf.

“Mi ddylai ein sefydliadau cenedlaethol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth gwlad, nid yn destun tro pedol munud diwethaf gan Weinidogion Llafur,” meddai.

“Mae’n rhyfedd, onid yw, mai bore yma y daeth y cyhoeddiad am yr arian, ar drothwy cynnal pleidlais yn y Senedd prynhawn yma.

“Nid dyma ydy’r ffordd i drin un o drysorau cenedlaethol nodedig ein cenedl ni.”

Cefndir

Dros y misoedd diwethaf Llywodraeth Cymru wedi wynebu pwysau cynyddol i weithredu.

Bythefnos yn ôl wnaeth golwg360 adrodd bod ymgynghoriad wedi ei lansio i’r posibiliad o dorri swyddi (mae’n disgwyl y bydd y rhain yn ddiogel am y tro, yn sgil y pecyn cymorth).

A fis diwetha’ mi lansiwyd deiseb yn galw ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mi ddenodd dros 1,000 o lofnodion mewn 24 awr.

Mae llu o wleidyddion hefyd wedi codi pryderon am sefyllfa’r sefydliad dros yr wythnosau diwethaf.

Pam bod yr Amgueddfa yn derbyn mwy?

Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro wrth golwg360 y bydd Amgueddfa Cymru yn derbyn mwy o gyllid am fod eu gofynion hwythau “dipyn yn uwch”.

Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau wrth y wefan hon y bydd amodau yn dod â chyllid yr Amgueddfa hefyd.

“Mae yna fwy o arian ar gyfer Amgueddfa Cymru gan fod yr Amgueddfa yn gweithredu ar draws saith safle ledled Cymru, a’r lefelau staffio a’r gofynion gweithredol yno cryn dipyn yn uwch na’r Llyfrgell,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Yn ogystal â diogelu swyddi, rydym yn disgwyl gweld y Llyfrgell yn chwarae rôl ragweithiol wrth fynd i’r afael â materion megis amrywedd, cynaliadwyedd, trawsnewid digidol, a gwaith estyn allan, gan ymgysylltu gyda chymunedau ar hyd a lled Cymru a bod yn berthnasol iddynt.”

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi arian newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru

Mae’r pecyn yn cynnwys £2.25m i’r Llyfrgell Genedlaethol a £3.95m i Amgueddfa Cymru i “ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd”