Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymwybodol o bwysigrwydd y celfyddydau a threftadaeth i Gymru, yn ôl y Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am y meysydd yma.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod gan y Llywodraeth £8m o gyllid covid nad yw eto wedi ei glustnodi at unrhyw ddibenion penodol, a gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw, holwyd Dafydd Elis-Thomas a fyddai’r celfyddydau yn derbyn rhywfaint o’r swm yma.

“Does den i ddim unrhyw amheuaeth y bydd y drefn sydd wedi bod gyda ni ar draws Llywodraeth Cymru [yn parhau],” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Mae cydweithrediad ardderchog wedi bod ar draws y Llywodraeth, a gyda’r Gweinidog Cyllid yn arbennig, ynglŷn â phwysigrwydd diwylliant a’r celfyddydau yn y sefyllfa yma.

“Does yna ddim problem o gwbl ynglŷn â’r ddealltwriaeth yna.”

Pwysleisiodd bod treftadaeth a chelfyddydau wedi’u cynnal a’u cefnogi hyd yma, er bod incwm ymwelwyr “wedi diflannu” ac er bod “er bod dim modd cael perfformiadau”.

Daw’r sylwadau wedi i bryderon gael eu codi yn barhaus am gyflwr y sector, a’u gallu i oresgyn heriau’r pandemig.

“Pla difäol” Covid-19

Dywedodd bod yna gyfathrebu cyson rhwng ffigyrau’r sectorau yma ac yntau, ac aeth ati wedyn i bwysleisio difrifoldeb yr argyfwng.

“Dw i’n pwysleisio hynna oherwydd mae yna siarad gwirion, os ga’i ddweud,” meddai. “Pobol yn sôn y gallwn ailgychwyn ar ôl y Pasg.

“Wel roedd pawb oedd yn gwybod rhywbeth am iechyd cyhoeddus, a natur y fath o bla difäol sydd wedi ein taro ni fel byd, na allwch chi ddim jest symud o sefyllfa fel hyn i ddechrau yn araf deg i weld a wneith hyn weithio.

“Mae’n rhaid i ni gael sicrwydd bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwbl ddiogel cyn caniatáu i bobol gymysgu â’i gilydd yn rhwydd ac yn rhydd.”

Canu clodydd yr Ardd Fotaneg

Yn ystod y sesiwn bu rhywfaint o drafod hefyd am brif sefydliadau cenedlaethol Cymru: y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, a’r Ardd Fotaneg.

“Mae’n bwysig cydnabod bod gan y cyrff cenedlaethol yma gylch gwaith cenedlaethol go iawn,” meddai. “A’u bod yn ffeindio ffordd o ddelifro hynny.

“A buaswn i’n dweud bod yr Ardd Fotaneg yn esiampl dda iawn o sut y mae’n bosib i sefydliad cenedlaethol – yng ngorllewin Cymru – fod â phartneriaeth gref iawn â phob math o gymunedau, sefydliadau rhanbarthol, a chwmnïau ledled Cymru.

“Dyna yw’r model i bob sefydliad cenedlaethol. Ni ddylai sefydliadau cenedlaethol gael eu hystyried yn sefydliadau sydd wedi’u canoli (centralised institutions) ar lefel genedlaethol.

“Dylen nhw gael eu hystyried yn sefydliadau sydd yn rhannu cyfrifoldebau (diverse and delegating).”

 

Swyddi yn y fantol: Llyfrgell Genedlaethol i lansio ymgynghoriad

Golwg360 yn deall bod y sefydliad gam yn nes at waredu 30 o swyddi llawn amser

“Anghyfartaledd clir” peidio ag ailagor theatrau

Non Tudur

“Mae yna ddiffyg rhesymeg yn perthyn i’r peth,” medd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.