Mae Brett Garner, sy’n aelod o Gymdeithas Pysgotwyr Pen Llyn, wedi dweud wrth golwg360 nad yw wedi cael ei dalu ers mis Tachwedd, a bod y diwydiant wedi cael “dim help” gan y Llywodraeth hyd yma.

Mae adroddiadau fod busnesau yn colli stoc oherwydd trafferthion yn eu nwyddau i Ewrop. Mae Cymdeithas Bwyd Môr yr Alban wedi dweud bod allforion i’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu taro gan oedi “tâp coch”.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei chyhuddo o wneud tro pedol ar addewid gan y Prif Weinidog i ddigolledu busnesau pysgota sy’n cael eu taro gan broblemau allforio ar ôl Brexit.

Ddydd Mercher (Ionawr 13) dywedodd Boris Johnson ei fod yn deall “rhwystredigaeth dros dro” y diwydiant pysgota ac addawodd ddarparu iawndal.

Ond yn ôl y BBC, nid oedd yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ymwybodol am yr addewid i ddigolledu’r diwydiant pysgota cyn i Boris Johnson ei grybwyll.

Wrth ymddangos gerbron pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd prif was sifil yr adran ei bod yn “monitro’r sefyllfa” a bod angen iddi gael “gwell darlun” o’r sefyllfa, wrth edrych ar “faterion iawndal”.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, ei fod yn “cydymdeimlo” â chymunedau pysgota sydd wedi cael eu “bradychu” gan gytundeb wedi’i lofnodi “ar yr unfed awr ar ddeg” yn sgil yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel diffyg paratoi ar gyfer Brexit.

“Dim help”

Ond mae Brett Garner, sy’n aelod o Gymdeithas Pysgotwyr Pen Llŷn, wrth golwg360: “Beth sy’n ddrwg iawn i ni ydi bo’ nhw (yr Undeb Ewropeaidd) wedi cael caniatâd i bysgota yn nŵr Cymru, a dydan ni methu gwerthu i mewn i Ewrop heb gael llwyth o hassle.

“Does dim level playing field ac mae pethau’n anodd dros ben.”

A phan ofynnwyd iddo a oedd y Llywodraeth yn gwneud digon i helpu’r diwydiant, roedd ei ateb yn glir.

“Nac ydi, dydyn nhw ddim yn helpu ni o gwbl.

“Ma’ hi wedi bod yn amser anodd uffernol o ran gwerthu cynnyrch, pan mae gen ti westai a bwytai a llefydd felly wedi cau, gallwn ni ddim gwerthu.

“Dw i heb gael cyflog ers dechrau mis Tachwedd, dw i weithiau’n teimlo bod dim pwynt imi gario ‘mlaen gyda hyn. Ond mae gena i dal gostau ac ati i gadw’r cwch.”

Galw am “rheolaeth well” a “strategaeth dda”

Ond er bod Brett Garner yn cydnabod y byddai cefnogaeth ariannol yn helpu’r diwydiant, mae’n dweud fod angen “rheolaeth well” a “strategaeth dda” er mwyn “adeiladu at y dyfodol”.

“I fi, dw i isio gweld rheolaeth well, rhyw fath o adaptive management.

“Os ydi rhywbeth ddim yn gweithio, rhaid ei newid o.

“Mae’n hawdd gofyn am arian ond short term ydi hynna… arian yn mynd mewn i’r banc ac yn syth allan.

“Ond mwy na hynna, rydan ni angen strategaeth dda er mwyn adeiladu at y dyfodol.

“A hyd yma dydyn nhw ddim wedi gwneud dim byd o gwbl.”

 

Jacob Rees-Mogg mewn dici-bo

‘Pysgod yn well ac yn hapusach nawr eu bod yn Brydeinig’, medd Jacob Rees-Mogg

Daw’r sylw wrth i’r SNP alw am ddigolledu pysgotwyr sy’n colli stoc oherwydd oedi

Gogledd Iwerddon yn wynebu prinder cynnyrch o ganlyniad i gytundeb Brexit

“Mae anfon lasagne o Brydain Fawr i Weriniaeth Iwerddon mor gymhleth”

Rhybudd y bydd pysgotwyr yr Alban ar eu colled yn sgil y cytundeb Brexit

Llywodraeth yr Alban yn rhagweld y bydd yn waeth na Pholisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE