Fe gollodd 94% o weithwyr llawrydd ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru eu gwaith yn sgîl Covid-19.

Dyna un o’r ystadegau trawiadol sydd i’w gweld yn adroddiad newydd gan Dasglu Llawrydd Cymru – grŵp a gafodd ei greu dros y cyfnod clo i gryfhau dylanwad y gymuned lawrydd ym myd y theatr.