Mae cwmni Theatr na nÓg wedi dechrau consortiwm theatr Gymraeg ar y cyd â thair o theatrau’r Cymoedd – oherwydd y cynnydd “anhygoel” yn nifer siaradwyr Cymraeg yn y fro.

Cyn y cyfnod clo, roedd y cwmni theatr o Gastell Nedd newydd sefydlu consortiwm gyda Theatr Soar Merthyr, Y Neuadd Les Ystradgynlais, ac Awen Trust yn Neuadd y Dre Maesteg, er mwyn creu gwaith gwreiddiol Cymraeg i’r Cymoedd.