Mae gan blant yng Nghymru rai o’r lefelau hapusrwydd a bodlonrwydd isaf o blith 35 o wledydd, yn ôl tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Fe ddylai’r adroddiad yma ein stopio’n stond a gwneud i ni sylweddoli pa mor llwm yw’r rhagolygon ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc,” meddai Delyth Jewell sy’n Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru ac yn Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros y Dyfodol.