Mae cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru wedi codi 2.7% i £173,000 eleni, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Mae prisiau tai ar draws y Deyrnas Unedig £6,000 yn uwch nag ym mis Awst 2019, gyda chyfartaledd o £239,000.

Yn Lloegr mae cyfartaledd pris tŷ wedi codi 2.8% i £256,000, tra bod cynnydd o 0.6% i £155,000 wedi bod yn yr Alban a 3% i £141,000 yn Ogledd Iwerddon.

Yn ôl un economegydd, mae’r cynnydd mewn prisiau yn debygol o ostwng yn sylweddol yn sgil colledion swyddi ac amodau benthyca morgeisi llymach.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sydd wedi rhyddhau’r ffigyrau ar y cyd â’r Gofrestrfa Tir, bod data prisiau Awst yn adlewyrchu gwerthiannau gafodd eu cytuno cyn i’r newidiadau dros dro i’r dreth trafodiadau tir (yng Nghymru) a’r dreth stamp (yn Lloegr) gael eu cyflwyno.

Cafodd y ffigyrau eu rhyddhau wrth i ddata Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) ddangos bod 98,010 o dai wedi cael eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig ym mis Medi, sy’n ffigwr tebyg i’r un mis flwyddyn ynghynt.

“Prynwyr cefnog”

“Mae gan brisiau tai presennol sylfeini ansefydlog,” meddai Samuel Tombs, economegydd yn Pantheon Macroeconomics.

“Mae’n adlewyrchu prynwyr cefnog yn ymateb i’r pandemig drwy ddefnyddio arbedion o deithio llai a defnyddio llai o wasanaethau i brynu tai mwy. Bydd y galw yn disgyn yn fuan.

“Yn y cyfamser, mae’n debyg y bydd galw am dai cyntaf yn gostwng wrth i ddiweithdra godi, cyflogau aros yr un peth a chynnydd mewn cyfraddau morgeisi.”

Dywedodd Jamie Durham, economegydd yn PwC y gallai cyfyngiadau coronafeirws newydd achosi ansicrwydd yn lleol a chenedlaethol.

“Gallai ansicrwydd achosi pobol i ohirio penderfyniadau ariannol megis symud tŷ, gan arwain ar dwf gwannach mewn prisiau tai dros y misoedd nesaf,” meddai.

“Os bydd mesurau pellach yn cael eu cyflwyno, gallai prisiau tai ddisgyn yn 2021.”

Mae gwerthiant tai wedi cael cryn sylw yn y wasg yng Nghymru yn ystod cyfnod y coronafeirws, ac mae Golwg yn rhoi sylw i’r mater eto’r wythnos hon.