Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud bod “risg wirioneddol” y byddai gwasanaeth iechyd Cymru yn cael ei lethu heb gymryd camau i leihau lledaeniad y coronafeirws.
Mae arbenigwyr gwyddonol wedi cyfrifo bod nifer yr heintiau Covid-19 yn cynyddu 4% bob dydd yng Nghymru, gan amcangyfrifo 2,500 o heintiau dyddiol.
Dywedodd Mr Gething wrth gynhadledd i’r wasg fod 894 o bobl yn yr ysbyty gyda’r coronafeirws, i fyny 26% o’r wythnos diwethaf.
“Dyma’r uchaf y mae wedi bod ers mis Mehefin eleni,” meddai Mr Gething.
Mae 43 o bobl mewn gofal critigol gyda Covid-19, sydd 72% yn uwch na’r wythnos ddiwethaf ac sy’n golygu bod un o bob pedwar gwely gofal critigol ledled Cymru yn cael ei gymryd gan glaf coronafeirws.
Pobl hŷn
Dywedodd Vaughan Gething hefyd fod “lefelau uchel, pryderus, o haint” yn cael eu gweld ymysg pobl hŷn.
“Un o’r rhesymau pam rydym yn gweld mwy o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty yw oherwydd wrth i’r firws ddod yn fwy cyffredin yng Nghymru, mae wedi lledu o grwpiau oedran iau i grwpiau oedran hŷn,” meddai.
“Rydym yn gweld lefelau pryderus o uchel o haint yn ein poblogaeth hŷn. Nid yw hyn yn unigryw i Gymru. Mae hwn yn batrwm a welir ar draws y byd. Mae heintiau’n codi’n gyflym, yn gyntaf mewn pobl ifanc cyn lledaenu i grwpiau oedran hŷn.”
Clo dros dro
Dywedodd fod y clo dros dro – y “firebreak” – a ddaw i rym yng Nghymru am 6pm ddydd Gwener, wedi’i gynllunio i leihau trosglwyddiadau gymaint â phosibl drwy atal cysylltiadau cartref, gweithle a chymdeithasol.
“Rydym wedi dewis gwneud y firebreak mor fyr â phosibl ond er mwyn bod mor effeithiol â phosibl, mae angen iddo fod yn sydyn ac yn ddwfn, gan gynnwys pob rhan o gymdeithas, i gael yr effaith fwyaf posibl ar drosglwyddiad y feirws,” meddai Mr Gething.
“Yn bwysicaf oll, mae angen iddo dargedu’r prif ffynonellau trosglwyddo – mannau lle mae pobl yn cyfarfod â phobl eraill.”
Dywedodd Mr Gething fod y gyfradd-R amcangyfrifedig – nifer y bobl y mae pob achos o’r coronafeirws yn eu heintio – yng Nghymru rhwng 1.1 ac 1.4, ond y gellid ei gael i lawr i lai nag un gyda’r clo dros dro.
“Bydd hyn yn arafu lledaeniad y feirws, gan leihau’r gyfradd heintio, sydd yn y pen draw yn golygu bod angen triniaeth ysbyty ar lai o bobl a llai o bobl yn marw,” meddai.
Yn y cyfamser, mae Keir Starmer wedi galw am glo dros dro tebyg yn Lloegr.
“Staff y GIG yn gweithio’n ddiflino”
Ategodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru, ddarlun llwm Mr Gething o sut mae’r feirws yn lledaenu, yn enwedig ymysg pobl hŷn.
“Rydym yn pryderu’n arbennig am nifer y bobl dros 60 oed sy’n contractio’r feirws,” meddai.
“Mae nifer y cleifion â’r coronafeirws yn ein hysbytai yn cynyddu ac mae hyn hefyd, yn drasig, yn golygu bod nifer y marwolaethau unwaith eto’n codi. Gwyddom fod y nifer hwn yn debygol o fynd yn uwch.
“Gwyddom fod hyn yn anodd i lawer o bobl, ond rydym yn gofyn i bobl yng Nghymru barhau i gadw at y cyfyngiadau a’r canllawiau a’n helpu i ostwng nifer yr achosion, yr ysbyty a marwolaethau.
“Ar hyn o bryd mae staff y GIG yn gweithio’n ddi-baid i drin pawb â’r coronafeirws sydd angen gofal, ond mae staff hefyd yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal i bobl â materion iechyd eraill.
“Rhaid i ni hefyd gofio’r ymrwymiad a’r ymroddiad y mae staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u dangos drwy gydol y cyfnod hwn. Ni ddylid byth anghofio eu dewrder yn wyneb pwysau eithafol.”
Ffigurau diweddaraf
Heddiw (21 Hydref), nodwyd 962 yn rhagor o achosion o Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 38,361.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 14 yn rhagor o farwolaethau wedi’u cofnodi, gyda chyfanswm nifer y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn codi i 1,736.