Mae Keir Starmer, Arweinydd y Blaid Lafur, wedi galw ar y Boris Johnson i “stopio bargeinio gyda bywydau pobl” a chyflwyno cyfnod clo torr’r cylch (circuit breaker), tebyg i’r un fydd ar waith yng Nghymru, o ddydd Gwener (Hydref 23).

Dywedodd Mr Starmer fod gwyliau hanner tymor yn cynnig y “cyfle olaf” i gyflwyno cyfnod clo “effeithiol” o ddwy neu dair wythnos yn Lloegr er mwyn delio â thwf cyfraddau heintio.

Ond gwrthododd Boris Johnson y syniad o gyflwyno toriad cylched, gan gyhuddo Syr Keir Starmer o fod eisiau “rhoi’r golau i ffwrdd” ar y wlad.

Rhybuddiodd y Prif Weinidog i “stopio bargeinio gyda bywydau pobol” wrth iddo feirniadu methiant trafodaethau’r Llywodraeth â Manceinion Fwyaf.

“Dyma Brif Weinidog sy’n gallu gwario £7,000 y diwrnod ar ymgynghorwyr i’r system profi ac olrhain, sydd ddim yn gweithio, sy’n gallu ffeindio £43 miliwn ar gyfer pont ardd gafodd erioed ei hadeiladu, ond ddim yn gallu ffeindio £5 miliwn ar gyfer pobol Manceinion Fwyaf,” meddai mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Hydref 21).

“Balch”

Dywedodd Boris Johnson ei fod yn “falch” o’r gefnogaeth mae’r Llywodraeth wedi ei darparu i’r wlad.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hollol wirion ei fod o’n ymosod ar ganlyniadau economaidd mae’n rhaid i ni eu cymryd ar draws rhaid rhannau o’r wlad pan mae o eisiau rhoi’r golau i ffwrdd gyda chyfnod clo cenedlaethol,” meddai.

“Dyna oedd ei bolisi’r wythnos ddiwethaf, ie ddim? Tybed y gallai gadarnhau mai dyna yw ei bolisi’n dal i fod?”

Dywedodd Mr Starmer fod y gyfradd heintio yn “codi ym mhob ardal,” gan ychwanegu, “Cernyw ac o bosib Ynys Wyth yw’r unig ardaloedd le mae’r cyfradd heintiau yn llai na Manceinion Fwyaf pan gafodd cyfyngiadau lleol eu cyflwyno…”

Y Prif Weinidog yn “rhy araf”

“Roedd y Prif Weinidog yn rhy araf yng nghymal cyntaf y pandemig, ac mae’n rhy araf eto, allwn ni ddim ailadrodd yr un camgymeriad,” meddai Syr Keir Starmer.

“A wneith o weithredu er budd y bobol a chymryd y cyfle i gyflwyno toriad cylched ddydd Gwener?”

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud y byddai’r Llywodraeth yn gwneud “beth bynnag sydd
ei angen” er mwyn tywys y wlad drwy’r argyfwng.

Fodd bynnag, wfftiodd y syniad o glo dros dro:

“Byddai hynny yn golygu cau ysgolion, cau busnesau a’r holl ddifrod emosiynol a seicolegol mae’r math yna o gyfyngiadau yn achosi.”