Bydd cael gwared ar y cynllun ffyrlo yn arwain at don o ddiswyddiadau, meddai arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford.

Cyhuddodd y Prif Weinidog Boris Johnson o wneud “penderfyniad bwriadol i adael i ddiweithdra godi, fel Thatcher yn yr 1980au.”

Dywedodd Boris Johnson ei fod yn “falch” o’r hyn mae’r Llywodraeth wedi ei wneud i “gefnogi pobol ar incwm isel drwy gydol y cyfnod hwn.”

Ychwanegodd: “Fe wnawn ni dywys y wlad drwy’r argyfwng hwn.”

“Ton o ddiswyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig”

Mewn sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Hydref 21), dywedodd Ian Blackford: “Wythnos nesaf, fel mae’r pandemig yn gwaethygu, bydd y Llywodraeth Geidwadol yn cael gwared ar y cynllun ffyrlo, gan achosi ton o ddiswyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig.

“Yn y cyfamser, tu ôl i ddrysau caeedig, mae’r Prif Weinidog yn cwyno nad yw’n gallu byw ar ei gyflog o £150,000.

“Felly os yw’r Prif Weinidog yn ei chael hi mor anodd, sut yn y byd mae o’n disgwyl i weithwyr oroesi ar £5.84 yr awr pan mae’r toriadau i ffyrlo’n dod i rym?”

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud “Rydym wedi cynyddu Credyd Cynhwysol £1,000 y flwyddyn, ac fel mae o’n gwybod, wrth gyfuno Credyd Cynhwysol a’r cynllun gwarchod swyddi rydym wedi ei gyhoeddi, bydd gweithwyr yn derbyn 80% o’u cyflogau.”

Y Prif Weinidog “jyst ddim yn deall”

Dywedodd Ian Blackford: “Mae gennyf ofn bod y Prif Weinidog jyst ddim yn deall. Ddoe, gwelsom ef yn diystyru pobol Manceinion Fwyaf y llwyr, gan ddangos agwedd Torïaidd mae pobol yn yr Alban yn gyfarwydd iawn gyda.

“Mae amser yn rhedeg allan, gyda dim ond wythnos ar ôl a wnaiff y Prif Weinidog wneud tro pedol ar ei doriadau i’r cynllun ffyrlo a buddsoddi yn ein cymunedau, neu a fydd o’n cefnu ar filiynau o bobol?”

Atebodd Boris Johnson: “Mae’n rhaid imi wrthod yr hyn mae o newydd ei ddweud oherwydd nid oes ganddo unrhyw gysylltiad â’r hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi pobol ar draws y wlad.”