Mae Heddlu’r De wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga, 23, ym Mhenylan, Caerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga gan aelod o’r cyhoedd yn Heol Westville, Penylan tua 11.30yh ar nos Iau, Ionawr 28.

Mae dau ddyn 29 oed a 23 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n parhau i gynnal archwiliad fforensig o fflat yn Heol Penlline yn yr Eglwys Newydd ar ôl i’r ddau gael eu harestio nos Lun.

Mae teulu Tomasz Waga wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn parhau i gael cymorth gan swyddogion cymorth teulu arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea, sy’n arwain yr ymchwiliad, bod yr arestiadau yn “ddatblygiad sylweddol” ond eu bod yn parhau gyda’u hymchwiliadau.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn Heol Westville, Heol Minster neu ger 319 Heol Casnewydd rhwng 10yh a hanner nos ar Ionawr 28.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.