Bydd y Cymry yn cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru i lenwi’r Cyfrifiad ar-lein eleni, gan ddefnyddio ffonau symudol, gliniaduron, cyfrifiaduron neu dabledi.

Dyma’r ail dro y bydd pobol yn gallu llenwi’r cyfrifiad ar y We, yn dilyn cyflwyno ffurflenni ar-lein yn 2011.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd help ar gael i’r rheini sydd angen cymorth, a bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu ymateb ar ffurflen bapur os byddai’n well ganddynt wneud hynny.

Mae disgwyl i Gyfrifiad 2021 gael ei gynnal ar Fawrth 21 yng Nghymru, yn dilyn gosod Rheoliadau Cyfrifiad (Cymru) 2020 gerbron y Senedd ym mis Mai 2020.

Bydd pobol yng Nghymru yn gallu cymryd rhan yn y Cyfrifiad yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig a’i swyddfa weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sydd yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar bob agwedd o’r cyfrifiad yng Nghymru.

Caiff data’r cyfrifiad ei ddefnyddio i lywio’r broses o lunio polisïau, cynorthwyo’r gwaith o ddyrannu adnoddau a chynllunio gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro’r pandemig ac addasu eu cynlluniau yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyfrifiad llwyddiannus”

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’n hanfodol bod gennym wybodaeth fanwl a chyfredol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r pandemig.

“Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pawb yn eu defnyddio yn diwallu anghenion ein cymdeithas sy’n newid.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyfrifiad llwyddiannus a diogel yma yng Nghymru.”