Mae Andrew RT Davies wedi cyhuddo Llafur Cymru o “gefnu ar y Deyrnas Unedig er budd gwleidyddol.”
Ond mae arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod Cymru wrth galon y Deyrnas Unedig.
Mewn darn barn i’r felin drafod asgell dde, Canolfan Astudiaethau Cymreig, mae Andrew RT Davies yn amlinellu pwysigrwydd Cymru i’r Undeb a phwysigrwydd yr Undeb i Gymru.
Mae hefyd yn cyhuddo’r Prif Weinidog Mark Drakeford o ddiystyru’r Deyrnas Unedig fel petai “eisoes wedi marw.”
“Ni fydd yn syndod i lawer ond rwy’n Gymro, yn Unoliaethwr ac yn Geidwadwr balch,” meddai.
“Rwy’n ystyried fy hun yn bob un o’r tri yna a dydw i ddim am ymddiheuro am hynny.
“Dw i’n Gymro sy’n hynod falch o hanes Cymru, ein cyfraniad i’r Deyrnas Unedig a’n llwyddiant byd-eang.
“Dw i hefyd yn Brydeiniwr balch ac yn credu yn yr Undeb. I mi, nid yw bod yn gefnogwr o’r Undeb yn golygu eich bod yn diystyru Cymru.
“Yn wir, mae i’r gwrthwyneb llwyr, fel rydym wedi gweld drwy gydol y pandemig, mae cefnogi’r Undeb yn golygu eich bod chi’n cefnogi Cymru.”
‘Yr Undeb wedi achub bywydau’
Cyfeiriodd Andrew RT Davies at y gefnogaeth mae Llywodraeth San Steffan wedi ei roi i Gymru yn ystod y pandemig: cefnogi bron i 400,000 o swyddi yng Nghymru drwy’r cynllun ffyrlo, 100,000 o bobol drwy incwm hunangyflogaeth a darparu £5.2 biliwn o gyllid Covid-19 i Lywodraeth Cymru.
“Ac yn bwysicaf oll mae cynllun brechu hynod lwyddiannus Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweld mwy o’n dinasyddion na gwledydd eraill yn Ewrop gyda’i gilydd yn cael eu brechu, a drwy hynny achub mwy a mwy o fywydau yng Nghymru bob dydd.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl petaem wedi dilyn y llwybr a argymhellwyd gan y Blaid Lafur neu’r cenedlaetholwyr a oedd yn mynnu ein bod yn ymuno â rhaglen yr Undeb Ewropeaidd neu’n mynd ar ben ein hunain.
“Petaem wedi gwrando arnynt, byddem yn awr yn yr un sefyllfa o anhrefn ag yr ydym yn ei weld ledled Ewrop.
“Nid yw’n syndod bod Plaid Cymru, yn ystod y pandemig, wedi lleisio barn gyfansoddiadol gan mai nhw yw’r blaid sy’n galw am wahanu.
“Ond yr hyn sy’n achosi’r dryswch mwyaf yw bod Llafur Cymru wedi cefnu ar y Deyrnas Unedig er budd gwleidyddol.”
‘Llafur ar drywydd cenedlaetholdeb’
Yn yr erthygl mae Andrew RT Davies yn mynd ymlaen i gyfeirio at benderfyniad Llafur Cymru i ddewis tri ymgeisydd sydd o blaid annibyniaeth, i sefyll ar restr rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ceredigion ac yn Nwyfor-Meirionnydd.
“Nid dim ond cyfansoddiadau sydd ar feddwl Prif Weinidog Cymru, mae’n siarad fel petai’r Deyrnas Unedig eisoes wedi marw.
“Does ond rhaid iddo edrych ar y gefnogaeth mae’r Undeb wedi’i ddarparu yn ystod yr argyfwng hwn i weld pa mor anghywir ydyw.
“Yn anffodus, mae’r arweinydd Llafur wedi dewis mynd ar drywydd cenedlaetholdeb.
“Pan mae’n addas iddyn nhw, mae Llafur yn honni eu bod yn blaid unoliaethol, ond ar yr un pryd yn dewis tri ymgeisydd o blaid annibyniaeth ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai eleni.
“Ac ar y thema honno, bydd Mark Drakeford yn symud Llafur Cymru i fan lle byddant yn ystyried chwalu’r Deyrnas Unedig. Maen nhw’n ei alw’n Indy Curious – dw i’n ei alw’n Indy Dangerous. Dyna pwy yw Llafur Cymru nawr.
“Dyna pam na fydda i byth yn ymddiheuro am hyrwyddo’r Undeb a Chymru.”