Mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n ymddangos fod carcharorion Cymraeg y Berwyn “yn cael eu cosbi ddwywaith”.
Daw hyn yn sgil adroddiadau bod staff carchar y Berwyn yn Wrecsam wedi ymosod ar garcharor sy’n siarad Cymraeg, Rhodri ab Eilian, lai na phythefnos wedi iddo gwyno am beidio cael siarad yr iaith yno.
Adroddiadau bod staff carchar Berwyn wedi ymosod ar siaradwr Cymraeg
“Cymry’n cael eu cosbi ddwywaith”
Eglurodd Arfon Jones wrth golwg360 ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraethwr y carchar, Nick Leader, ym mis Medi pan ddaeth yn ymwybodol o honiadau nad oedd Cymry yn cael siarad Cymraeg yn y carchar.
Gwadu’r honiadau wnaeth Nick Leader, a ni lwyddodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, i ddarganfod tystiolaeth o drin siaradwyr Cymraeg yn israddol wrth gynnal ymchwiliad, yn ôl Arfon Jones.
Ond mae’r Comisiynydd Heddlu wedi trefnu cyfarfod arall gyda’r Comisiynydd Iaith Gymraeg yn sgil yr honiadau diweddaraf.
“Mae hyn yn achosi pryder, oherwydd er bod y carchar wedi gwadu, mae’n amlwg fod yna ychydig o wirionedd yn hyn,” meddai Arfon Jones wrth golwg360.
“Ar ôl beth sydd wedi digwydd heddiw, dw i wedi pasio’r mater ymlaen i’r heddlu yn Wrecsam.
“Dw i’n gobeithio y byddan nhw’n mynd i weld Rhodri i geisio cael cadarnhad [o’r ymosodiad] a chymryd pethau o’r fan yna.”
Ychwanegodd: “Mae Cymry’n cael eu cosbi ddwywaith – unwaith am eu trosedd ac ail-dro am siarad Cymraeg – a dydy hynny ddim yn deg.
“Mae’n gywilydd o beth fod gan garcharorion fwy o hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngharchar Lerpwl na’r Berwyn.”
“Dim llawer o hyder yn y system garchardai”
Aeth Arfon Jones ymlaen i ddweud nad oes ganddo “lawer o hyder yn y system garchardai”.
Dywedodd fod “lot o swyddogion ifanc a di-brofiad” yng ngharchar y Berwyn a bod “angen edrych ar yr arweiniaeth” yno.
Ers i Nick Leader gael ei benodi’n Lywodraethwr ar y carchar yn 2019, y Berwyn sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn trais a hunan-niweidio o blith holl garchardai Cymru.
“Roedd carchar y Berwyn i fod yn garchar diwylliedig, ond mae’n debyg ei fod nhw wedi mynd yn ôl i’r hen ffordd o redeg carchar,” meddai Arfon Jones.
“Os ydi rhywun yn cael ei guro am siarad Cymraeg, mae wir angen ymchwiliad troseddol, ymchwiliad gan Gomisiynydd yr Iaith ac ymchwiliad hefyd i ddiwylliant y carchar.
“Mae hefyd angen siarad gyda’r Gwasanaeth Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf.”
Ymateb Boss y Berwyn
Wrth ymateb i ymholiad gan golwg360 ynghylch yr honiadau, dywedodd Nick Leader, Llywodraethwr carchar y Berwyn:
“Oherwydd rheolau gwarchod data, nid oes gennyf awdurdod i drafod materion heb ganiatâd Mr ab Eilian.
“Byddwn yn darparu ffurflen ganiatâd iddo.”
Y Comisiynydd Iaith yn ystyried y dystiolaeth
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg:
“Mae’r Comisiynydd wedi derbyn gohebiaeth ynghylch carchar y Berwyn, ac mae cyfrifoldeb arno i ystyried yr achos a thystiolaeth sydd wedi dod i’w sylw cyn penderfynu a oes sail i agor ymchwiliad statudol.
“Ni fyddai’n briodol iddo wneud sylw pellach ar y mater yn y cyfamser.”