Mae un o ddiplomyddion blaenllaw Rwsia wedi dweud fod y wlad yn barod i gefnu ar yr Undeb Ewropeaidd os daw sancsiynau am garcharu arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny.

Wrth ymateb i gwestiwn am barodrwydd Moscow i dorri cysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd y Gweinidog Tramor Sergey Lavrov bod yn rhaid i Rwsia fod yn fwy hunangynhaliol i wynebu sancsiynau posibl.

“Dydyn ni ddim eisiau cael ein hynysu o fywyd rhyngwladol, ond mae’n rhaid i ni fod yn barod am hynny,” meddai.

“Os ydych am gael heddwch, rhaid i chi baratoi ar gyfer rhyfel.”

Pan ofynnwyd iddo a yw Rwsia’n symud tuag at raniad gyda’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd “ein bod yn barod am hynny”.

Pwysleisiodd bwysigrwydd cysylltiadau economaidd â’r 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, gan ychwanegu y byddai Moscow yn parhau i gymryd rhan mewn cydweithrediad sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, ond bod rhaid iddynt baratoi ar gyfer y gwaethaf a dibynnu fwyfwy ar ei hadnoddau ei hun.

Dywedodd llefarydd y Kremlin, Dmitry Peskov, fod Rwsia am gynnal cysylltiadau arferol â’r Undeb Ewropeaidd ond bod angen i’r wlad baratoi ar gyfer y gwaethaf os yw’r bloc yn cymryd camau “gelyniaethus”.

Cefndir

Cafodd Alexei Navalny ei arestio ar Ionawr 17 ar ôl iddo ddychwelyd i Rwsia o’r Almaen, lle treuliodd bum mis yn gwella wedi iddo gael ei wenwyno gydag asiant nerfol.

Roedd yn beio Llwydoraeth Rwsia am ei wenwyno, ond mae’r Kremlin yn gwadu’r cyhuddiad.

A’r wythnos ddiwethaf, anfonodd llys ym Moscow Navalny i’r carchar am ddwy flynedd ac wyth mis am dorri telerau ei brawf tra yn gwella yn yr Almaen.

Roedd yn ôl yn y llys ddydd Gwener (Chwefror 12) am lambastio cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd, a gafodd sylw mewn fideo’r llynedd yn hysbysebu newidiadau cyfansoddiadol a oedd yn caniatáu ymestyn rheolaeth Vladimir Putin ar y wlad.

Cyfeiriodd Alexei Navalny y rhaiwnaeth ymddangos yn y fideo fel “pobol heb gydwybod”.

Alexei Navalny yn cyhuddo Vladimir Putin o’i wenwyno

Arweinydd gwrthblaid Rwsia’n dal i wella yn yr Almaen

Navalny wedi’i wenwyno â Novichok, meddai Llywodraeth yr Almaen

Labordy milwrol arbennig yn yr Almaen wedi canfod “prawf heb amheuaeth o asiant nerfol cemegol o’r grŵp Novichok”.