Cafodd arweinydd gwrthbleidiol yn Rwsia, Alexei Navalny, ei wenwynio gyda’r asiant nerfol sofietaidd Novichok, mae llywodraeth yr Almaen wedi dweud.
Cafwyd Mr Navalny, un o feirniaid mwyaf ffyrnig Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn sâl ar daith yn ôl i Moscow o Siberia ar 20 Awst ac ac aethpwyd ag ef i ysbyty yn ninas Omsk yn Siberia ar ôl i’r awyren lanio ar frys.
Fe’i trosglwyddwyd ddeuddydd yn ddiweddarach i ysbyty Siarite, Berlin, lle dywedodd meddygon yr wythnos ddiwethaf fod profion cychwynnol wedi dangos bod Mr Navalny wedi’i wenwyno.
“Prawf heb amheuaeth”
Dywedodd llefarydd y Canghellor Angela Merkel, Steffen Seibert, mewn datganiad bod profion gan labordy milwrol arbennig yn yr Almaen bellach wedi dangos “prawf heb amheuaeth o asiant nerfol cemegol o’r grŵp Novichok”.
“Mae’n ddigwyddiad echrydus bod Alexei Navalny wedi dioddef ymosodiad gydag asiant nerfol cemegol yn Rwsia,” meddai Mr Seibert.
“Mae llywodraeth yr Almaen yn condemnio’r ymosodiad hwn yn y modd cryfaf.”
Dywedodd y Canghellor Merkel fod Mr Navalny wedi dioddef “ymgais i lofruddio drwy wenwyno” ac mai’r nod oedd ei dawelu.
Dywedodd fod “cwestiynau difrifol iawn mai dim ond llywodraeth Rwsia all eu hateb a rhaid iddynt eu hateb”.
Dywedodd Gweinidog Tramor yr Almaen, Heiko Maas, fod llysgennad Rwsia wedi cael ei alw a dywedodd fod Berlin yn disgwyl ymchwiliad llawn a thryloyw.
Ymateb y Kremlin
Dywedodd y Kremlin ddydd Mercher nad oedd wedi cael gwybod eto am Mr Navalny yn cael ei wenwyno ag asiant nerfol.
“Nid yw gwybodaeth o’r fath wedi’i throsglwyddo i ni,” dywedodd llefarydd Kremlin Dmitry Peskov wrth asiantaeth newyddion y wladwriaeth Tass.
Dywed arbenigwyr arfau gorllewinol mai dim ond yn Rwsia a’r hen Undeb Sofietaidd y mae Novichok wedi’i weithgynhyrchu erioed.