Bron i 46 o flynyddoedd wedi i “orsaf radio fasnachol annibynnol gyntaf Cymru”, Sain Abertawe, ddarlledu am y tro cyntaf, newidiodd ei henw i Greatest Hits Radio ddoe (1 Medi).

Ar ôl cael ei phrynu gan gwmni Bauer Media y llynedd, mae’r orsaf wedi cael ei chyfuno â’r Hits Radio Brand Network, i fod yn rhan o rwydwaith radio fasnachol fwyaf gwledydd Prydain.

Er bod ambell un o’r gorsafoedd sydd wedi dod yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol yn cadw eu henwau, nid yw hyn yn wir am Sain Abertawe.

Meddai Andrew Bell, cyn-gyflwynydd ar sianel Sain Abertawe yn yr 80au, “mae gweld diflaniad enw oedd yn golygu cymaint i orllewin Morgannwg a Sir Gâr yn peri tristwch a mwy.”

“Mae Bauer Media wedi cadw rhai ‘brandiau’ lleol yn Lloegr, ond wedi taflu etifeddiaeth a hanes gorsaf radio fasnachol hynaf Cymru i’r bin sbwriel yn ddi-ots ac yn ddideimlad.”

“Rwy’n ddig, dig am fethiant y gyfundrefn wleidyddol Gymreig i wneud unrhyw safiad o werth i geisio achub Sain Abertawe.”

“Fy ngobaith yw y bydd rhywbeth mwy cymunedol yn codi o’r gweddillion.”

Pryderon am y ddarpariaeth Gymraeg.

Dros yr haf diflannodd rhaglen wythnosol ddwyieithog Chris Jones oddi ar arlwy Sain Abertawe, ac mae amheuaeth wedi codi ynghylch ymrwymiad grŵp Bauer Media i ddarparu cynnwys Cymraeg.

Dywedodd Cat Martin, ar ran Bauer Media, y byddant yn parhau i ddarparu’r un rhaglenni Cymraeg.

“Mae ein hymrwymiad tuag at yr iaith Gymraeg yn parhau’r un fath,” meddai Cat Martin wrth golwg360.

Yn ôl Bauer Media bydd rhaglen Gymraeg Gareth Hurford yn cael ei darlledu ar Greatest Hits Radio De Cymru o ddydd Sul i ddydd Gwener o 10yh tan hanner nos. Bydd Gareth yn cyflwyno’r ‘Top Ten at Ten’ ac yn chwarae caneuon poblogaidd o’r 70au, 80au a’r 90au, yn ogystal â dewis caneuon Cymraeg.

Bydd cynulleidfaoedd Greatest Hits Radio ym mhob cornel o’r DU yn derbyn newyddion lleol, newyddion traffig lleol, a gwybodaeth leol fydd wedi ei deilwra ar gyfer pob ardal.

“Cyfrifoldeb ac yn fraint.”

Wrth rannu ychydig o’i atgofion fel cyflwynydd i Sain Abertawe gyda golwg360, dywedodd Andrew Bell mai pwysigrwydd ei gyfnod â’r orsaf oedd “dwy flynedd a hanner o ddatblygu fy nghrefft pan ddes i sylweddoli pwysigrwydd byw a bod yn y gymuned fel gohebydd.”

Andrew Bell ar ddechrau ei yrfa

“Roedd bod yn aelod o staff Sain Abertawe yn gyfrifoldeb ac yn fraint.”

Aeth yn ei flaen i ddarlledu ar sioeau radio i’r BBC, Reuters, ABC a Channel 9 yn Awstralia, llwybr y tybiai na fyddai wedi bod yn bosib iddo oni bai am ei brofiad gyda Sain Abertawe.

“Roedd cael dweud “Bore da a shwd y’ch chi bore’ma” ar raglenni newyddion boreol Saesneg, cyflwyno rhaglenni Cymraeg a gohebu ar yr Elyrch (yn y ddwy iaith), a llawer mwy, yn cyfrannu i’m gyrfa’n hael,” ychwanegodd.

“Gorsaf a chymuned arbennig”

Rhannodd Helen Enser Morgan, a oedd yn 10 oed pan ddarlledodd yr orsaf am y tro cyntaf ym 1974, ei hatgofion melys fel gwrandawr a chyflwynydd i Sain Abertawe.

Helen Enser Morgan

“Roedd agoriad yr orsaf yn ddigwyddiad mawr i Abertawe a’r ardal gan mai dyma’r orsaf annibynnol gyntaf yng Nghymru,” meddai.

Rhwng 2012 a 2015 roedd Helen yn gyflwynydd i Sain Abertawe, a dywedodd ei bod yn braf cael dod yn rhan o orsaf yr oedd hi’n arfer gwrando arni.

Yn Ionawr eleni dychwelodd i’r orsaf, “Roeddwn wrth fy modd yn dychwelyd, roeddwn wedi dod i adnabod y bobol oedd yn ffonio ac roedd yn braf clywed yr un lleisiau eto, a chael eu gwasanaethu bob dydd,” ychwanegodd Helen.

“Weithiau, teimlaf fod rhaid newid gyda’r oes, a bod posib i Greatest Hits Radio De Cymru ymestyn cynulleidfa’r orsaf, gyda’r un cyflwynwyr yn cyrraedd gwrandawyr newydd.”

Dywedodd Helen fod Sain Abertawe yn “orsaf a chymuned arbennig” a hoffai ddymuno “pob lwc” iddynt wedi’r ailenwi.