Bydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn parhau i fod mewn grym yn Bolton a Trafford ar ôl “newid sylweddol” yng nghyfraddau heintio’r ddwy ardal.

Daw’r tro pedol gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, ar ôl i arweinwyr cyngor yn y ddwy ardal ymbil am gadw’r gwaharddiad ar ddau aelwyd yn cymysgu.

Dywed Matt Hancock: “Yn dilyn newid sylweddol mewn lefelau graddfa haint dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi penderfynu y bydd Bolton a Trafford yn parhau o dan y cyfyngiadau presennol.

“Mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud ar y cyd ag arweinwyr lleol ar ôl adolygu’r data diweddaraf.”

Meddylfryd ‘Whitehall sy’n gwybod orau’

Yn gynharach heddiw dywedodd Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, y byddai codi’r cyfyngiadau yn “gwbl afresymegol.”

Yn nes ymlaen, ar PM ar Radio 4, dywedodd:

“Drwy gydol yr argyfwng hwn, rydym wedi cael meddylfryd ‘Whitehall sy’n gwybod orau’ ar waith ac mae’n parhau.

“Nid yw’n ddigon da pan mae’r rheng flaen gyda ni nawr – mae angen i ni gael ein grymuso i wneud y penderfyniadau i amddiffyn ein cymunedau yn hytrach nag aros o hyd i’r Llywodraeth sortio ei hun allan.

“Rwy’n glir iawn am yr hyn sydd ei angen arnom: rheolaeth leol ar brofi ac olrhain gyda thimau o ddrws i ddrws – yn Oldham, dyna a gafodd y niferoedd i lawr a dyna sydd ei angen arnom ar draws Manceinion Fwyaf.

Galwodd Mr Burnham hefyd am gymorth i helpu pobl i gydymffurfio:

“Mae angen cymorth ariannol arnom i bobl hunanynysu, yn enwedig pobl ar gyflogau isel neu sy’n hunangyflogedig – mae hynny’n hanfodol gan nad ydym yn gweld pobl yn cydymffurfio â’r system profi ac olrhain genedlaethol.”

Mae llefarydd ar ran arweinydd y blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi dweud fod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “hollol anhrefnus.”

Y data diweddaraf

Dywed yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y data diweddaraf yn Bolton yn dangos bod y raddfa heintio wythnosol yn 66.6 ymhob 100,000 o bobol ar Awst 30, tra bod y raddfa yn Trafford yn 36.8 ymhob 100,000.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Trafford:

“Rydym yn ymwybodol bod nifer o breswylwyr a busnesau wedi edrych ymlaen at fanteisio ar y cyfyngiadau’n cael eu llacio, ond rydym i gyd yn hyn gyda’n gilydd ac mae’n bwysig ein bod yn cadw at y canllawiau er mwyn dod a’r raddfa i lawr.”