Mae 63% o bleidleiswyr yr Alban bellach yn credu y byddai’r wlad yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm y flwyddyn nesaf.
Gofynnodd pôl opiniwn gan Panelbase ar gyfer Business for Scotland (BfS): ‘Os byddai yno refferendwm ar annibyniaeth yn 2021, pa ochr ydych chi’n meddwl fyddai’n ennill?’
Gan eithrio’r sawl a atebodd drwy ddweud eu bod nhw ddim yn gwybod, roedd 63% yn credu y byddai’r Alban yn pleidleisio ‘Ie’.
Gan gynnwys y sawl atebodd drwy ddweud eu bod nhw ddim yn gwybod, dyma’r canlyniadau:
- 22% Rhy agos i ddweud.
- 29% Na yn ennill.
- 49% Ie yn ennill .
60% yn credu y dylai fod gan Senedd yr Alban yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth
Mae’r pôl piniwn hefyd wedi dangos bod 60% o bleidleiswyr o’r farn y dylai fod gan Senedd yr Alban yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth.
Gofynnwyd y cwestiwn ‘Os yw Senedd yr Alban yn cynnwys mwyafrif o blaid annibyniaeth ar ôl etholiadau nesaf yr Alban (Mai 2021) a ddylai Senedd yr Alban allu galw refferendwm annibyniaeth swyddogol, gyda chaniatâd San Steffan, neu hebddo?
Gan gynnwys y sawl a atebodd drwy ddweud nad oedden nhw’n gwybod, dyma’r canlyniadau:
- 52% yn cytuno bod mwyafrif yn Senedd yr Alban o blaid annibyniaeth yn fandad i gynnal refferendwm newydd.
- 13% ddim yn gwybod.
- 35% ddim yn cytuno.
Hefyd, roedd 60% yn credu bod mwyafrif o blaid annibyniaeth gan gynnwys yr SNP a’r Gwyrddion, yn hytrach na dim ond yr SNP, yn fandad democrataidd ar gyfer refferendwm annibyniaeth newydd.