Mae seicolegydd chwaraeon wedi dweud iddo lofruddio ei fam gan ei bod hi’n ymosod ar ei gyn-wraig ar Trydar.

Roedd Robert Child, 37, wedi cyfaddef llofruddio ei fam 64 mlwydd oed, Janice Child, yn ei chartref yn Lerpwl ar Fawrth 5, ond mae’n gwadu gwneud hynny oherwydd arian.

Bu iddo lofruddio ei fam gyda morthwyl, cyn cymryd £25,000 o’i chyfrif banc.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu ei gartref yn Thingwall, Cilgwri, i ddweud wrtho am farwolaeth ei fam, roedd Robert Child yn prynu car Jaguar am £14,000.

Mae’n dweud ei fod wedi bwriadu dreifio’r Jaguar i’r Eidal a lladd ei hun yno.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Mercher (Awst 1), dywedodd Robert Child ei fod wedi mynd i weld ei fam er mwyn dweud wrthi ei fod yn bwriadu lladd ei hun, cyn iddynt ddechrau dadlau.

Mae’n honni ei bod hi wedi defnyddio “terminoleg hiliol a bychanus” am ei gyn wraig Sangee Perera, oedd o dras Sri Lanka.

“Roedd hi’n ei chasáu oherwydd lliw ei chroen,” meddai.

Wnaeth y llys ddim clywed tystiolaeth o unrhyw gyfrifon Trydar ar gyfrifiadur Janice Child.

Mae Roberts Child wedi derbyn ei fod wedi taro ei fam 31 o weithiau gyda’r morthwyl.

“Dw i’n cofio’r ergyd gyntaf. Nid wyf yn cofio’r gweddill,” meddai.

Mae’r achos yn parhau.