Mae ymchwil newydd yn dangos nad oes gan un o bob tri o bobol ifanc yng Nghymru sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol.

Mae adroddiad Report Card gan UNICEF wedi gosod y Deyrnas Unedig yn rhif 27 ymysg 41 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd sy’n rhan o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ar gyfer lles meddwl, iechyd corfforol a sgiliau academaidd a chymdeithasol plant.

Yng Nghymru, dywedodd un o bob tri (33.28%) o blant 15 oed eu bod â lefelau boddhad isel yn eu bywydau.

O ran sgiliau academaidd, dangosodd y data fod 30% o blant 15 oed heb sgiliau darllen a mathemateg sylfaenol, tra bod 30% hefyd yn cael trafferth gwneud ffrindiau.

Dangosodd y data fod 26.5% o bobol ifanc rhwng pump a 19 oed yng Nghymru dros eu pwysau neu yn ordew yn 2016.

Allan o’r 41 gwlad sydd ar y rhestr, y Deyrnas Unedig sydd yn y 10fed safle isaf o ran cyfraddau hunanladdiadau ymysg pobol ifanc.

Mae’r cyfraddau hunanladdiadau ar gyfer pobol ifanc rhwng 15 a 19 oed yn is yng Nghymru a Lloegr (3.3 i bob 100,000), nag yn yr Alban (5.4) a Gogledd Iwerddon (9.8).

O gymharu â gweddill gwledydd Prydain, Cymru sydd wedi brechu’r gyfradd fwyaf o blant ag ail frechiad y frech goch, gyda 92% o blant wedi ei derbyn.

Yn ôl y data gan UNICEF, mae’r Deyrnas Unedig yn 29ain o ran lles meddwl, yn 19eg o ran iechyd corfforol, ac yn 26ain o ran sgiliau.

Ledled gweledydd Prydain, dangosa’r data fod 36% o blant 15 oed wedi adrodd fod eu hiechyd meddwl yn wael, fod 37% o blant heb sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol, a bod 31% o blant yn ordew neu dros eu pwysau pan gafodd yr ymchwil ei chwblhau.

Un yn “un yn ormod”

“Byddai dim ond un plentyn yng Nghymru yn adrodd boddhad isel mewn bywyd yn ormod,” meddai Michael Sheen, llysgennad UNICEF UK.

“Mae hyn yn arbennig o lwm o ystyried y pandemig, sydd yn effeithio ar blant yn arw.

“Fel Cymro balch a Llysgennad i UNICEF UK, mae’n galonogol gweld yr ymrwymiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddangos i iechyd a hawliau plant – ond mae’n rhaid adeiladu ar hyn ar frys, a gwella llesiant bob plentyn, fel nad yw’n effeithio ar eu dyfodol.”

Rhybuddion y gall llesiant plant waethygu yn sgil y pandemig

Er gwaethaf peth cynnydd mewn hawliau plant, mae galw am bolisïau cymdeithasol ac economaidd gwell er mwyn sicrhau lleisiant plant a phobol ifanc yng Nghymru, a thu hwnt, yn enwedig yn sgil y pandemig, yn ôl Swyddfa Ymchwil UNICEF.

Mae UNICEF wedi rhybuddio y gallai llesiant plant ledled y Deyrnas Unedig waethygu yn sgil y coronafeirws, gan fod bywydau plant wedi cael eu gweddnewid.

Ar ôl treulio cyfnodau hir ar wahân i’w teuluoedd a’u ffrindiau, a heb fynediad at addysg na chefnogaeth yr ysgolion, mae pryderon am lesiant plant.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith da yn blaenoriaethu hawliau plant, gan ddangos ymrwymiad i iechyd meddwl,” meddai Joanna Rea, cyfarwyddwr eiriolaeth UNICEF UK.

“Mae’n rhaid iddynt barhau drwy ddefnyddio darganfyddiadau’r data hyn er mwyn osgoi argyfwng hir dymor i blant, a sicrhau eu hawliau.

“Mae’n rhaid i holl lywodraethau gwledydd Prydain ddatblygu a chyflenwi cynllun adfer llesiant plant, sydd yn croesi cenhedloedd ac adrannau, er mwyn sicrhau nad yw yr un plentyn yn colli ei hawl i iechyd, diogelwch, addysg na hapusrwydd.”