Cyrhaeddodd o leiaf 409 o ffoaduriaid lannau gwledydd Prydain ddydd Mercher (Medi 2) – y nifer uchaf erioed mewn diwrnod.

Mae’r nifer cynyddol wedi arwain at ymchwiliad gan y Pwyllgor Materion Cartref.

Bydd y pwyllgor yn clywed gan arweinwyr y Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Droseddu Genedlaethol fore Iau (Medi 3).

Daw hyn ar ôl i fesurau ychwanegol, gan gynnwys dronau ac awyrennau milwrol, gael eu defnyddio i geisio atal pobol rhag cyrraedd gwledydd Prydain.

“Targed a magned”

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson ddoe (Medi 2) fod gwledydd Prydain yn “darged ac yn fagned” i fasnachwyr pobol ac addawodd newid yn y gyfraith i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn rhoi bai ar awdurdodau Ffrainc am niferoedd cynyddol o ffoaduriaid sydd yn croesi o Ffrainc.

Hyd yma mae mwy na 5,600 o ffoaduriaid wedi cyrraedd gwledydd Prydain eleni gan groesi’r sianel o Ffrainc i Loegr.