Mae Andy Burnham, Maer Manceinion Fwyaf, yn dweud bod codi cyfyngiadau coronafeirws yr ardal ar hyn o bryd “yn gwbl afresymegol”.

Mae’r cyfyngiadau’n cael eu llacio yn Bolton a Trafford er y bu cynnydd diweddar iawn yn nifer yr achosion o’r feirws sydd wedi’u cofnodi yno.

Yn ôl y camau diweddaraf, bydd modd i bobol o ddwy aelod gyfarfod eto.

Ond mae cyfradd achosion Bolton wedi codi o 18.4 ym mhob 100,000 o bobol i 59.1 o fewn wythnos pan fo 170 o achosion newydd wedi’u cofnodi.

Mae’r gyfradd yn Trafford wedi codi o 19.4 i 35.4 yn yr un cyfnod, gydag 84 o achosion newydd.

Roedd disgwyl i’r cyfyngiadau gael eu llacio cyn i’r achosion hyn gael eu cyhoeddi ond byddan nhw’n mynd rhagddyn nhw beth bynnag, fel y mae pethau ar hyn o bryd.

Yn ôl arbenigwyr, aelwydydd yn dod ynghyd sy’n fwyaf tebygol o fod wedi achosi’r clwstwr diweddaraf o achosion.

Ymateb

Mae arweinydd Cyngor Bolton yn dweud bod y llacio wedi dod yn rhy hwyr.

“Fe wnaethon ni annog y Llywodraeth i godi Bolton allan o’r cyfyngiadau ychwanegol ar adeg pan oedd cyfraddau heintio’n isel,” meddai David Greenhalgh.

“Dyna’r penderfyniad cywir ar y pryd.

“Fodd bynnag, fe fu cynnydd sydyn ac anrhagweladwy yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn Bolton.

“Rydyn ni bob amser wedi cael ein llywio gan y data, sy’n golygu nad oes gennym ddewis ond gweithredu’n gyflym er mwyn cadw pawb yn ddiogel.”

Mae Andrew Western, arweinydd Cyngor Trafford, wedi ysgrifennu at Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn gofyn am eglurder “ar frys”.

Mae’n dweud bod y penderfyniad i lacio’r cyfyngiadau wedi achosi “anhrefn a dryswch” sy’n debygol o gael effaith ar gymunedau cyfagos hefyd lle nad yw cyfraddau mor uchel.

“Mae’r trefniadau sydd wedi’u cynnig bellach yn gwneud fawr ddim synnwyr,” meddai.

“Mae’r system wedi’i thanseilio gan broses benderfyniadau’r Llywodraeth.”

Mae’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o anwybyddu cynghorau nad ydyn nhw’n rhai Ceidwadol.

Galw am gamau pendant

Yn sgil yr helynt, mae Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf, sy’n gyfuniad o ddeg o gynghorau lleol, yn galw am strategaeth er mwyn llacio’r cyfyngiadau’n raddol ac yn ddiogel.

Maen nhw’n dweud bod y dull pytiog o godi’r cyfyngiadau hyd yn hyn yn achosi dryswch ar draws yr ardal.

Mae Andy Burnham wedi cynnig cymorth i Matt Hancock i gyflwyno’r drefn brofi ac olrhain yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf.

Ymateb Andy Burnham

Dywedodd Andy Burnham wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y dylai pobol barhau i ddilyn cyfyngiadau’r coronafeirws am y tro.

Mae hynny’n golygu peidio â dod â phobol ynghyd mewn grwpiau mawr, meddai.

“Rydyn ni’n canfod ein hunain mewn sefyllfa gwbl anghynaliadwy fore heddiw – dyna’r ffordd fwyaf cwrtais y galla i ei dweud hi,” meddai.

“Dros nos, rydyn ni wedi gweld llacio cyfyngiadau mewn dwy fwrdeistref lle mae niferoedd cynyddol o achosion – ac mewn un achos, mae’n barth coch.

“Ac mae bwrdeistrefi cyfagos yn dal o dan gyfyngiadau ond â llawer llai o achosion.

“Roedd y cyfyngiadau hynny bob amser yn anodd eu hegluro wrth y cyhoedd ond maen nhw’n gwbl afresymegol nawr.”

Dywed llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan eu bod nhw’n parhau i gydweithio ag awdurdodau Manceinion Fwyaf.