Mae Stryd Downing wedi dweud ei bod yn “hyderus” ynghylch y cyflenwad o frechlynnau’r coronafeirws.

Daw hyn yn sgil pryderon am ostyngiad yn y cyflenwad o frechlynnau ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, oherwydd gwaith sy’n cael ei wneud gan Pfizer – gwneuthurwr un o’r brechlynnau coronafeirws cymeradwy.

Mae swyddogion yng Nghymru hefyd yn disgwyl llai o ddosau gan AstraZeneca – sydd wedi’i ddarparu’n bennaf mewn meddygfeydd yn hytrach na chanolfannau brechu – cyn i’r cyflenwad ddychwelyd i lefelau diweddar tua dechrau mis Mawrth.

Datgelwyd fis diwethaf y byddai’r Deyrnas Unedig yn wynebu oedi tymor byr o ran brechlyn Pfizer wrth i’r cwmni fferyllol orfod lleihau allbwn dros dro fel rhan o waith cyffredinol i gynyddu capasiti gweithgynhyrchu o ran y galw byd-eang am frechlynnau.

Mae’n debyg bod y gwaith yn ymwneud â chynyddu cynhyrchiant yn ei ffatri yn Puurs, Gwlad Belg, mewn ymdrech i gynhyrchu mwy o ddosau nag a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer 2021.

Dywedodd llefarydd ar ran Pfizer ei fod, yn dilyn y gwaith, yn cyflawni’r danfoniadau i’r Undeb Ewropeaidd “yn unol â’r amserlen wreiddiol y cytunwyd arni” a’i bod yn gweithio tuag at gynyddu’r danfoniadau yn yr wythnos sy’n dechrau ar Chwefror 15.

Ychwanegodd: “Yn y Deyrnas Unedig, rydym yn parhau i gysylltu’n agos â’r Llywodraeth i ddarparu’r 40 miliwn dos o’r brechlyn Pfizer/BioNTech yr ydym wedi ymrwymo i’w cyflenwi cyn diwedd y flwyddyn a gallwn gadarnhau bod y cyflenwad rhagamcanol cyffredinol yn aros yr un fath ar gyfer chwarter un (Ionawr i Fawrth).”

‘Hyderus’

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am gaffael cyflenwadau’r brechlynnau ar gyfer pedair gwlad ynysoedd Prydain.

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, Boris Johnson: “Rydym yn hyderus o’n cyflenwad o frechlynnau ac rydym yn hyderus y gallwn gyrraedd ein targed o frechu’r pedwar grŵp gorau hynny erbyn dydd Llun.

“Ac o hynny ymlaen, byddwn yn parhau i lawr y rhestr flaenoriaethu a pharhau i ddarparu nifer fawr o frechlynnau bob dydd i’r rhai sydd ymhellach i lawr y rhestr.

“Rydym yn hyderus o’n cyflenwadau ond nid ydym wedi gwneud sylwadau ar fanylion amserlenni dosbarthu na symudiadau’r brechlynnau.”

Fodd bynnag, bydd canolfannau brechu torfol yng Nghymru yn cau neu’n lleihau eu horiau gweithredu dros y pythefnos nesaf mewn ymateb i’r ostyngiad yn y cyflenwad.

Byrddau iechyd fydd yn penderfynu am lif y cyflenwad yng Nghymru am y cyfnod.

Mae swyddogion wedi nodi y byddant yn canolbwyntio’r stociau o frechlyn Pfizer ar gynyddu nifer yr ail ddosau yn sylweddol yr wythnos nesaf, a hynny gan fod y rhai a gafodd ddos gyntaf ym mis Rhagfyr bellach yn agosau at ddyddiad yr ail ddos.

Canolfannau brechu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf yn cau dros dro

Eisoes cafwyd cadarnhad y bydd canolfannau brechu torfol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf yn cau dros dro oherwydd y materion cyflenwi hyn.

Mae’n debyg y bydd y canolfannau – sef y canolfannau ym Merthyr Tudful, Abercynon, Rhondda a Phen-y-bont ar Ogwr – yn cau am oddeutu pythefnos, tra bod disgwyl i ganolfannau brechu eraill yng Nghymru leihau eu horiau gweithredu yn sgil y cwymp mewn cyflenwad.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Cwm Taf Morgannwg, Clare Williams, y bydd gwaith yn stopio “am bythefnos yn ein pedair canolfan frechu gymunedol ym Merthyr Tudful, Abercynon, Rhondda a Phen-y-bont ar Ogwr”.

“Ein bwriad o’r cychwyn yw dod â brechlynnau mor agos at ble mae pobl yn byw ag y gallwn. Felly, yn ystod yr oedi hwn o bythefnos, byddwn yn edrych ar leoliadau pob un o’n pedair canolfan frechu gymunedol i sicrhau eu bod yn y lleoliadau gorau i breswylwyr,” meddai.

Dywedodd yr AS Llafur Chris Bryant, sy’n cynrychioli etholaeth Rhondda yn San Steffan, y bydd y targed o frechu’r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf yn cael ei gyflawni, ond yna “bydd bwlch o ddwy neu dair wythnos pan fydd y cyflenwad o frechlyn Pfizer ac Astra Zeneca yn cael ei leihau’n sylweddol”.

Honnodd y bydd y bwrdd iechyd lleol yng Nghwm Taf Morgannwg yn gostwng o gael 24,000 dos yr wythnos o frechlyn AstraZeneca i 8,000 dos o ddydd Llun.

Dywedodd Mr Bryant fod disgwyl “cynnydd” yn y cyflenwad brechlynnau yng Nghymru o 1 Mawrth.

Mewn fideo ar Facebook, dywedodd AoS Plaid Cymru dros y Rhondda, Leanne Wood: “Bydd y canolfannau brechu ar gau am bythefnos cyn cael eu hailagor ddiwedd y mis ddechrau mis Mawrth.

“Mae hyn yn rhywbeth a oedd yn hysbys tua phythefnos yn ôl, mae wedi’i gynllunio ar ei gyfer.

“Mae’r amser yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol er mwyn ail-bwrpasu’r canolfannau brechu, a bydd y brechiadau sydd ar gael yn ystod y cyfnod pythefnos nesaf hwn yn cael eu darparu drwy’r meddygfeydd meddygon teulu.”

Disgwyl “llai o frechlyn dros yr wythnosau nesaf”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud “ein bod ni’n mynd i gael llai o frechlyn dros yr wythnosau nesaf”.

“Dros yr ychydig wythnosau nesaf, rydyn ni’n disgwyl gostyngiad bach yn nifer y brechlynnau y byddwn ni’n eu derbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – mae hyn yn newid arfaethedig a disgwyliedig yn y cyflenwad a fydd yn effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi ystyried hyn yn ein cynlluniau ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau nac oedi pan fydd pobl i gael eu hail ddos. Disgwylir i’r cyflenwad o frechlynnau gynyddu’n sylweddol o ddechrau mis Mawrth.

“Bydd pob dos o’r brechlyn a dderbyniwn yn parhau i gael ei ddanfon ar unwaith i bawb sydd ei angen. Mae ein timau brechu yn parhau i wneud gwaith anhygoel i frechu pawb cyn gynted â phosib.”

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, fod gostyngiad yn y cyflenwad wedi’i gynllunio ar ei gyfer, a’i fod yn cael ei “gynnwys yn ein cynlluniau”.

Mae Jeane Freeman, Gweinidog Iechyd yr Alban, yn cydweld â Llywodraeth Cymru gan ddweud wrth BBC Radio Scotland: “Mae hyn yn ymwneud â’r cyflenwad i’r Deyrnas Unedig, nid dosbarthu o gwmpas y Deyrnas Unedig.

“Felly bydd yn effeithio ar bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.”

Beth nesa’?

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud bod cynlluniau’n parhau i gwblhau brechiadau o’r pum grŵp blaenoriaeth nesaf erbyn y Gwanwyn.

Ym Mhwyllgor Craffu’r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford y bydd GIG Cymru nawr “yn canolbwyntio ein cyflenwad brechlyn Pfizer ar ail frechiad ar gyfer y bobl hynny yn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth sydd eisoes wedi cael eu brechlyn cyntaf”.

“Byddwn yn defnyddio brechlyn Astra Zeneca ar gyfer pigiadau cyntaf i bobl yn y pum grŵp nesaf,” meddai.

“Byddwn yn clywed, mae arnaf ofn, gan bobl sy’n siomedig bod faint o gyflenwad maen nhw’n ei gael yn llai nag yr ydym wedi’i gael dros yr wythnosau diwethaf oherwydd gallem ddefnyddio mwy.

“Os oedd mwy, gallem ei ddefnyddio, does dim dwywaith am hynny.”

“Tryloywder yn allweddol” a “Ras Gaffael” – Ymateb gwrthbleidiau Cymru

Wrth ymateb i’r cwestiynau sydd wedi codi, sicrhau cyflenwad teg i Gymru oedd pryder Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AoS. Galwodd am gyhoeddi’r ffigurau cyflenwi “er mwyn bod yn hyderus ein bod yn cael ein cyfran deg”.

“Mae tryloywder yn allweddol i gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae pawb sy’n ymwneud â chyflwyno’r brechlyn wedi gwneud gwaith gwych yn brechu 20% o boblogaeth Cymru, ond mae angen inni weld llif y brechlynnau i bedair gwlad y DU, er mwyn bod yn hyderus ein bod yn cael ein cyfran deg,” meddai.

“Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro am y data ar faint o bob brechiad sy’n cael ei ddosbarthu i bob gwlad, mewn ysbryd o dryloywder. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi nodi ei fod yn cytuno, felly y cwestiwn yw – pryd y bydd y data hwn ar gael i’r cyhoedd, fel y gallwn i gyd fod yn hyderus bod y dosbarthiad mor agored a theg â phosibl?”

Manteisiodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, Angela Burns AoS, ar yr oedi i ganu clodydd y Deyrnas Unedig am “daro bargeinion o flaen y gweddill”.

“Mae’n ras gaffael,” meddai, “a dyna pam ei bod mor hanfodol i Lywodraeth y DU fynd allan yn gynnar pan wnaeth a llofnodi bargeinion o flaen y gweddill – gan gynnwys gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae Llywodraeth Geidwadol y DU – sy’n caffael y cyflenwadau – yn hyderus y bydd y llif cyson o ddosau yn parhau, ac mae hyn yn tanlinellu’r fantais o fod mewn Teyrnas Unedig gref sy’n gweithio i Gymru.”

Galwodd hefyd am “gysondeb o ran cyflenwi” dros y cyfnod y bythefnos y bydd y byrddau iechyd yn rheoli llif y cyflenwad.

“Bydd byrddau iechyd nawr yn penderfynu sut y caiff y stociau presennol o frechlynnau eu darparu dros y pythefnos nesaf, ond rhaid iddynt hefyd ddangos cysondeb o ran cyflawni,” meddai

“Cafwyd adroddiadau bod gwahanol fyrddau’n cymryd gwahanol ddulliau o ran pwy sy’n cael eu galw am y pigiad, ond rhaid i’r bobl y nodwyd eu bod mewn grwpiau blaenoriaeth fod ar ben y ciw o hyd, waeth beth fo’r lefelau cyflenwi presennol.”

Ffigyrau brechu Cymru

Cafodd Cymru ei chadarnhau fel gwlad gyntaf y Deyrnas Unedig i frechu 20% o’i phoblogaeth ddydd Mercher (Chwefror 10).

Mae cyfanswm o 684,097 o bobol yng Nghymru bellach wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, tra bod 3,795 wedi derbyn ail ddos.