Ers ei sefydlu yn 2015, mae cwmni Bwyd Môr Menai wedi ehangu eu busnes yn raddol, gyda’r weledigaeth o ailgyflwyno bwyd mor i gymunedau lleol yng Nghymru.
Ar ôl treulio’r cyfnod cynnar yn masnachu o gegin Clwb Rygbi Bethesda, bellach mae modd prynu eu cynnyrch mewn amryw leoliadau yng Ngwynedd a Môn neu archebu drwy restr siopa wythnosol, sy’n cael ei hanfon i aelodau.
Mewn sgwrs gyda golwg360 bu un o gyfarwyddwyr y cwmni, Mark Gray, yn trafod pwysigrwydd dysgu, dathlu, a gwerthfawrogi bwyd môr Cymru a’r manteision o gynnal cadwyn gyflenwad “syml a lleol”.
“Cynnyrch gan hyd at wyth o bysgotwr lleol”
Wrth drafod gweledigaeth wreiddiol y cwmni, dywedodd Mark Gray:
“Roedd mwy a mwy o bobl yn holi ynglŷn â’r cynnyrch ac yn trafod pa mor anodd ydi trïo cael gafael ar fwyd môr lleol – gan fod 90% o gynnyrch yn cael ei allforio.
“Fe wnaethon ni gychwyn sefydlu mannau casglu ac erbyn hyn mae ganddo ni 16 lleoliad ar draws Ynys Môn a Gogledd Orllewin Gwynedd, gan gynnwys, Bethesda, Caernarfon a Llanrug.
“Rydym yn prynu cynnyrch gan hyd at wyth o bysgotwr lleol,” meddai, “lobsters, bass, macrel, pollok, Oysters, Menai Mussles.. ac rydym yn eu darparu i rai o fwytai gorau’r ardal, cogyddion ac yn ailgyflwyno bwyd môr i gymunedau lleol.
Un o brif flaenoriaethau’r cwmni, meddai, yw addysgu’r cyhoedd i drin bwyd mor a chynnig ryseitiau blasus i alluogi pobl i’w hail-greu o’u cartref.
“Dydi llawer o bobl ddim yn gwybod sut i breperio a choginio bwyd môr,” eglurai.
“Mae’n ddiddorol – y bobl sydd yn gwybod ydi’r rhai sydd wedi cael y wybodaeth wedi’i basio lawr iddyn nhw drwy’r cenedlaethau.”
“Cadw cynnyrch yn lleol”
“Wrth i’r archfarchnadoedd gau eu marchnad pysgod yn y dyddiau cynnar, roedd pobol yn dod ata ni ac yn cefnogi’n lleol,” eglura, “ac felly roedd hynny’n cyflwyno pobol i be oedd ar gael yn lleol.
Dywedodd fod y gefnogaeth honno yn parhau a’i fod yn awyddus i gefnogi ymgyrch ‘Economi Sylfaenol’ Llywodraeth Cymru i annog blaenoriaethu cynnyrch lleol yn y dyfodol.
“Mae’r ymgyrch yn golygu sicrhau bod cymaint o fwyd a phosib yn tarddu o Gymru ac yn cael ei gyfenwi yng Nghymru,” meddai, “cadw cynnyrch yn lleol – mae hynny’n ymgyrch wych”
Brexit: “Mae’n llanast llwyr”
Ac a yw ansicrwydd Brexit, a’r goblygiadau niweidiol i’r diwydiant, wedi amlygu unrhyw broblemau ymhellach?
“Be mae hyn i gyd wedi’i i ddangos,” meddai, “yw pa mor fragile ydi’r gadwyn gyflenwi pan mae’r gadwyn yn un gymhleth – mae cadwyn gyflenwi syml a lleol llawer cryfach.”
“Mi fydd ein pysgotwyr ni yn cael amser uffernol hefo Brexit, ac maen nhw yn cael yn barod,” meddai.
“Mae angen cymaint o wiriadau iechyd ar gynnyrch byw ac unrhyw broblemau o ran gwaith papur, bydd popeth yn cael ei anfon yn ôl.
“Mae’n llanast llwyr,” meddai, “mae 90% o gynnyrch yn mynd dramor – sy’n golygu felly nad oes marchnad i’n pysgotwyr ac wrth gwrs mae hynny’n effeithio arna’ i.
“Ond dweud hynny, ni yw prif gyflwynwr rhai o’n pysgotwyr ni erbyn hyn a dyna ble rydyn ni eisiau bod – yn cefnogi ein pysgotwyr ac yn defnyddio’r holl wybodaeth wych sydd ganddyn nhw.
“Fel arall, fydden nhw’n mynd allan o fusnes.”
“Gwerthfawrogi bwyd a ble mae’n dod o”
Dywedodd bod y gefnogaeth leol wedi bod yn “anhygoel” mewn cymunedau ledled y Gogledd dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n ymdrech wirioneddol ar y cyd,” meddai, “rydyn ni eisiau i’r gymuned deimlo mai dyma ydi eu siop bysgod nhw a’u bod nhw’n rhan ohoni.
“Rydym wedi sefydlu Clwb Bwyd Môr Menai a … fydd aelodau’n cael mynediad ar-lein i gael recipes a fideos ar sut i baratoi, sut i goginio… ac mae’r cyfan am ddim.
“Y gwahaniaeth allweddol rhwng Prydain a gwledydd tramor,” meddai, “yw dramor, mae pryd o fwyd yn cael ei ystyried i fod yn ddathliad.
“Yma, mae o bron iawn yn cael ei weld fel rhywbeth anghyfleus – felly dyna rydyn ni’n drio ei wneud – annog pobol i fwynhau paratoi bwyd, eistedd i lawr fel teulu, mwynhau amser teuluol a gwerthfawrogi bwyd ac o ble mae’n dod o.”