Ddyddiau’n unig ers i Willis Halaholo gael ei alw i garfan Cymru mae’r canolwr talentog wedi ei gynnwys ar y fainc i wynebu’r Alban brynhawn Sadwrn.

Mae Prif Hyfforddwr Cymru wedi canmol dyfalbarhad y canolwr a allai ennill ei gap cyntaf i Gymru oddi ar y fainc.

Mae’r cyn-chwaraewr Super Rugby sydd yn enedigol o Seland Newydd wedi ei gynnwys ar ôl i wyth o chwaraewyr yng ngharfan wreiddiol Cymru cael eu hanafu.

“Cafodd fagwraeth galed ac mae’n ddyn ifanc cyfrifol iawn,” meddai Wayne Pivac.

“Fel un sy’n dod o Seland Newydd fy hunan, ac wedi ei hyfforddi gydag Academi Auckland flynyddoedd yn ôl, rwy’n ei adnabod yn dda iawn, mae’n fachgen talentog a chyfrifol iawn.

“Mae’n dod â set o sgiliau cyffrous i ni, a dyna beth rydym yn chwilio amdano – rhywbeth ychydig yn wahanol nad oes gennym yn y garfan ar hyn o bryd felly mae hynny’n gyffrous.”

Wynebu beirniadaeth

Roedd Halaholo hefyd wedi ei gynnwys fel rhan o garfan gyntaf Wayne Pivac i wynebu’r Barbariaid yn 2019, ond bu rhaid iddo dynnu nôl ar ôl anafu wrth chwarae i’r Gleision rai dyddiau’n gynt.

Bryd hynny cafodd ei feirniadu gan rai gan mai ar sail preswyl roedd yn gymwys i chwarae i Gymru ac nad oedd wedi ei eni nag â pherthnasau Cymreig.

Ers hynny mae’r Cymro balch o Seland Newydd wedi bod yn awyddus i ddangos i rheini sydd wedi ei feirniadu cymaint mae’r wlad mae wedi ei fabwysiadu yn ei olygu iddo.

“Mae’r wlad hon yn fy nghalon bellach,” meddai.

“Mae unrhyw un sy’n fy adnabod yn gwybod pwysigrwydd teulu i mi, ac mae gen i ddwy ferch sydd wedi eu geni yma yng Nghymru – sy’n gwneud y wlad hon yn rhan o honnaf ac yn rhan o fy nghalon.

“Does dim yn fy ysgogi’n fwy na’r rheiny sydd yn fy amau ac yn fy meirniadu i.”

Nid Willis Halaholo yw’r chwaraewr cyntaf i gael ei eni yn Seland Newydd sydd wedi cynrychioli Cymru – mae rhestr hir gan gynnwys Hemi Taylor, Brett Sinkinson a Sonny Parker.

Yn fwy diweddar wrth gwrs mae Gareth Ansecombe, Hadleigh Parkes a Johnny McNicholl wedi gwisgo’r crys coch.

“Dydw i ddim yn gwybod os yw hyn o ganlyniad i hil neu’r ffordd ydw i,” meddai wrth Bodlediad ScrumV y BBC y llynedd.

“Roedd sicr rhai sylwadau hiliol.

“Dw i wedi gweld dau chwaraewr arall a aned yn Seland Newydd yn cael croeso enfawr yma ond eto mae ’na farc cwestiwn amdana i.

“Does gen i ddim byd yn erbyn y rheol preswyl – os ydych chi yn erbyn y rheol mae hynny yn iawn, does dim ots gen i, eich barn chi yw hynny – ond mae’n edrych yn debyg fod pobol yn dewis a dethol pwy maen nhw’n meddwl sy’n haeddu beirniadaeth am y peth.

“Dyw e ddim yn fy mhoeni i – dw i di bod trwy llawer gwaeth yn ystod fy mywyd.”

Seland Newydd, Tonga a Chymru

Ar ôl cael ei eni yn Auckland i rieni o Tonga cynrychiolodd Ysgolion Uwchradd Seland Newydd yn 2007 cyn chwarae i Tonga ym Mhencampwriaeth y Byd Dan 20 yn 2009.

Ond mae’n cydnabod i’w fywyd droi ben i waered yn ei arddegau wrth iddo fynd yn gaeth i alcohol a chymysgu gyda gangiau.

Erbyn ei ugeiniau cynnar, roedd yn byw yn garej ei deulu-yng-nghyfraith gyda’i wraig Sandra a’i ferch ifanc Atu gan weithio fel glanhawr peirannau mewn iard leol.

“O’n i’n codi am chwech yn y bore ac yn glanhau peiriannau tan tua phump y nos i geisio gwneud rhywfaint o arian er mwyn bwydo’n nheulu,” meddai mewn cyfweliad â Wales Online ychydig ar ôl symud i Gymru.

“Un noson benderfynais i roi gorau i’r yfed a’r a gangiau a rhoi cynnig go iawn ar chwarae rygbi.

“Fy merch oedd y cymhelliant o’n i ei angen i roi’r gorau i bopeth a rhoi cynnig arall ar rygbi.”

Ar ôl cyfnodau yn chwarae i amryw glybiau yn Seland Newydd cafodd ei enwi yng ngharfan yr Hurricanes gan chwarae ochr yn ochr â un o fawrion rygbi Seland Newydd Ma’a Nonu ac ennill teitl Super Rugby gyda nhw yn 2016.

Yn fuan wedyn symudodd i Gymru gan arwyddo i Gleision Caerdydd – hyd yma mae wedi cynrychioli’r rhanbarth ar 76 achlysur.

Mae Wayne Pivac yn gyffrous iawn i weld beth fydd gan Halaholo i gynnig i Gymru

‘Halaholo yw beth sydd ei angen ar garfan Cymru’

Mae Wayne Pivac yn credu fod gan Willis Halaholo lawer i gynnig i Gymru.

“Mae’n dod â set o sgiliau cyffrous i ni, a dyna beth rydym yn chwilio amdano – rhywbeth ychydig yn wahanol nad oes gennym yn y garfan ar hyn o bryd felly mae hynny’n gyffrous.”

“Rydym yn mynd drwy lawer o ystadegau a fideo ac mae ei sgiliau yn plethu’n dda gyda’r gêm rydym yn awyddus i chwarae.”

Canolwr arall sydd wedi bod yn chwarae’n dda i’w ranbarth yn ddiweddar yw Jamie Roberts ac mae Pivac yn cyndabod ei fod eisoes wedi bod mewn cyswllt â’r chwaraewr profiadol yn ystod y Bencampwriaeth eleni.

“Pŵer, yn amlwg, yw canolbwynt gêm Jamie, ond Willis yw’r gorau o bell ffordd yn ardal y gwrthdrawiad oherwydd ei waith troed, mae’n curo amddiffynwyr ac yn mynd dros y llinell dro ar ôl tro, a dyna beth rydym ni’n chwilio amdano.

“Mae’n dda’n dad-lwytho ac mae’n dda iawn yn yr ardaloedd o’r gêm lle nad ydym ni wedi cymryd ein cyfleoedd.

“Mae’n gallu sythu’r llinell ymosodol a rhoi pobol i mewn i wagle, felly dw i’n ffyddiog mai dyna sydd ei angen arnom ar hyn o bryd.”

5 newid i dîm Cymru i wynebu’r Alban

Wayne Pivac yn enwi’i dîm i wynebu’r Alban yn Stadiwm Murrayfield brynhawn Sadwrn