Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn “hafanau ar gyfer camdriniaeth” ac mae’n rhaid i gwmnïau’r sector gyflwyno mesurau i atal troseddwyr rhag gweithredu’n ddienw ar eu platfformau, meddai arweinwyr pêl-droed yn Lloegr.

Mae llythyr agored gan holl brif gyrff llywodraethu’r gêm yn y wlad at Twitter a phrif weithredwyr Facebook, Jack Dorsey a Mark Zuckerberg, yn dweud bod yn rhaid i’r platfformau hynny, ynghyd ag Instagram sy’n eiddo i Facebook, wneud mwy i gael gwared ar gamdriniaeth.

Mae llu o unigolion ar draws y gêm broffesiynol wedi’u targedu yn ddiweddar, ac mae’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol dan bwysau i roi systemau ar waith i alluogi’r heddlu i adnabod defnyddwyr pan fo angen.

“Hafan ar gyfer camdriniaeth”

Mae’r llythyr yn datgan: “Rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda’ch swyddogion gweithredol dros y blynyddoedd ond y realiti yw bod eich platfformau’n parhau i fod yn hafan ar gyfer camdriniaeth.

“Mae eich diffyg gweithredu wedi creu’r gred ym meddyliau’r cyflawnwyr dienw na ellir eu dal. Mae’r llif di-baid o negeseuon hiliol a gwahaniaethol yn bwydo’i hun: y mwyaf y mae’n cael ei oddef gan Twitter, Facebook ac Instagram, platfformau gyda biliynau o ddefnyddwyr, y mwyaf y daw’n ymddygiad normal, derbyniol.”

Llofnodwyd y llythyr gan brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Mark Bullingham, ei gymheiriaid yn yr Uwchgynghrair a’r EFL, Richard Masters a Trevor Birch, cyfarwyddwr y gêm broffesiynol i fenywod yn Lloegr, Kelly Simmons, prif weithredwr Cymdeithas Pel-droedwyr Proffesiynol Lloegr, Gordon Taylor, prif weithredwr Cymdeithas Rheolwyr Cynghrair Lloegr, Richard Bevan, prif weithredwr Dyfarnwyr Lloegr, Mike Riley, a chadeirydd Kick It Out, Sanjay Bhandari.

Mae chwaraewyr Manchester United Marcus Rashford, Axel Tuanzebe, Anthony Martial a Lauren James ymhlith y rhai sydd wedi bod yn dargedau cam-drin cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â Romaine Sawyers West Brom a amddiffynnwr Chelsea Reece James, brawd Lauren.

Mae Ashton Hewitt ymhlith sêr chwaraeon o Gymru sydd wedi tynnu sylw at y mater.

Mae’r llythyr yn annog y platfformau i sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddiwr yn cael ei “erlid oddi ar” eu platfformau oherwydd eu rhyw neu liw eu croen.

Hidlo a rhwystro

Mae’n galw arnynt i roi mecanweithiau ar waith sy’n hidlo neu’n rhwystro negeseuon sy’n cynnwys deunydd hiliol neu wahaniaethol, gweithredu mesurau “cadarn, tryloyw a buan” i dynnu unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ddosbarthu i lawr.

Yn ogystal â phroses ddilysu well a fyddai’n ei gwneud yn haws i’r heddlu nodi pwy yw deiliad cyfrif, mae’r llythyr yn galw am wahardd defnyddwyr sy’n cam-drin rhag ail-gofrestru cyfrif.

Dylai’r platfformau gynorthwyo “yn weithredol ac yn gyflym” awdurdodau ymchwilio yn eu hymdrechion i adnabod camdrinwyr, meddai’r llythyr.

Mae’r llythyr yn cloi fel a ganlyn: “Dylai chwaraewyr, swyddogion, rheolwyr a hyfforddwyr, o unrhyw darddiad a chefndir ac ar unrhyw lefel o bêl-droed, allu cymryd rhan yn y gêm heb orfod dioddef cam-drin anghyfreithlon.

“Byddwn ni, arweinwyr y gêm bêl-droed yn Lloegr, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w hamddiffyn, ond ni allwn lwyddo nes i chi newid y gallu i droseddwyr i aros yn ddienw.

“Rydym yn nodi’r sicrwydd presennol gan Facebook y bydd safonau’n cael eu tynhau, ond mae angen llawer mwy i ysgogi newid.

“Rydym yn galw am gyfarfodydd gyda’ch sefydliadau i drafod y dystiolaeth o gam-drin ar eich platfformau, y camau rydych yn eu cymryd, a sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion a amlinellir yn y llythyr hwn.”

“Dydyn ni ddim eisiau casineb a hiliaeth ar ein platfformau”

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Facebook: “Dydyn ni ddim eisiau casineb a hiliaeth ar ein platfformau ac rydym yn ei ddileu pan fyddwn ni’n dod o hyd iddo.

“Mae’r mesurau newydd a gyhoeddwyd gennym ddoe, sy’n cynnwys gweithredu llymach pan ddown yn ymwybodol o bobl yn torri ein rheolau mewn negeseuon uniongyrchol, yn adeiladu ymhellach ar y gwaith a wnawn i fynd i’r afael â hyn.

“Rydym yn rhan o’r gweithgor a gynullwyd gan Kick it Out a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â holl gyrff y diwydiant, yr heddlu, a’r Llywodraeth, i helpu i fynd i’r afael â hiliaeth ar-lein ac oddi-ar-lein.”

Ashton Hewitt yn annog eraill i rannu eu profiadau o hiliaeth mewn chwaraeon

“I’r rheini ohonom ni sy’n chwarae am hwyl neu fel gyrfa, ni ddylai hiliaeth fod yn rhan o’r siwrnai honno.”