Bydd y Cymro Liam Williams yn wynebu pencampwr pwysau canol y WBO, Demetrius Andrade, yn yr Unol Daleithiau ym mis Ebrill ar ôl i delerau gael eu cytuno rhwng y ddau.
Roedd y WBO wedi ceisio trefnu’r ornest ym mis Mawrth 2020, cyn i Covid-19 achosi aflonyddwch ar draws y byd chwaraeon.
Yna, ceisiodd yr WBO bennu dyddiad newydd o Chwefror 10, 2021 ar gyfer yr ornest, ond mae’r hyrwyddwyr Frank Warren ac Eddie Hearn bellach wedi cyhoeddi cytundeb i’r ddau ymladdwr gwffio ym mis Ebrill.
Mae gan Liam Williams record o 23 buddugoliaeth a thair colled, a bydd yn ceisio trechu Demetrius Andrade, sydd erioed wedi colli, gyda record o 29-0.
Mae Liam Williams, 27, wedi ennill saith brwydr yn olynol ers colli dwy ornest yn olynol i Liam Smith yn 2017.
Llwyddodd i drechu Andrew Robinson o fewn un rownd yn ei unig ornest yn 2020.