Mae cyn-gapten Cymru yn disgwyl i’r Alban dargedu gwendidau Cymru yn Stadiwm Murrayfield brynhawn dydd Sadwrn.

Yn ôl Gwyn Jones fydd yr Albanwyr yn llawn hyder ar ôl curo Lloegr yn Twickenham o 6-11 – eu buddugoliaeth gyntaf yno ers 1983.

Ond er mae’r Albanwyr yw’r ffefrynnau mae’n cydnabod y gallai Cymru, gydag ychydig o lwc, ennill am yr eildro yn y Bencampwriaeth eleni.

“Roedd angen y fuddugoliaeth honno ar Gymru yn erbyn Iwerddon,” meddai Gwyn Jones.

“Dylai fod wedi bod yn fwy cyfforddus yn erbyn 14 dyn Iwerddon, ond buddugoliaeth yw buddugoliaeth.

“Ar ôl blynyddoedd o fygwth bod yn dîm hanner da, mae’r Alban wedi cyflawni hynny. Roedd gweld yr Albanwyr yn chwalu pac Lloegr yn Twickenham yn rhywbeth i gofio. Roeddent mor drawiadol ag yr oedd Lloegr yn druenus a dylent fod wedi ennill o fwy.”

‘Cystadleuaeth ddiddorol nid traddodiadol’

Ar ôl i Gymru colli’r gêm gafodd ei hail-drefnu fis Hydref yn erbyn yr Alban o 10-14, dydy Gwyn Jones ddim yn disgwyl i’r naill dîm na’r llall chwarae’r gêm draddodiadol y byddai rhai yn disgwyl ei gweld.

“Bydd hi’n gystadleuaeth ddiddorol yn Murrayfield ddydd Sadwrn, dw i’n amau na fydd y gêm yn cael ei chwarae yn arddull traddodiadol byddem ni’n disgwyl i weld rhwng Cymru a’r Alban.

“Mae Hamish Watson arweinydd pac yr Alban wedi ysbrydoli [Jamie] Ritchie, Richie Gray i warchod yr ymylon ac ennill trosiant. Mae’r Alban eisiau gêm reoledig, gyda’u rheng ôl yn agos at ardaloedd y gwrthdaro – lle gall eu chwaraewyr gorau gael y dylanwad mwyaf.

“Dydyn nhw ddim eisiau llanast llac fydd yn rhoi lle ac amser i ymosodiadau byr fyfyr.

“Bydd yr Alban eisiau targedu leiniau Cymru. Maen nhw yn parhau yn wendid affwysol y mae timau yn targedu dro ar ôl tro. Bydd yr Alban yn cicio i’r corneli ac yn aros i weld pac Cymru yn dechrau gwingo.

“Dw i’n gobeithio y gwelwn ni rheng flaen Cymru yn camu i fyny. Bydd rhywfaint o gysondeb yn y safleoedd allweddol yn helpu a dylai wythnos o ymarfer dalu ar ei ganfed.

“Felly, os yw’r Alban am gael trefn a strwythur, bydd yn gosod cyfyngiadau anarferol ar y maswr Finn Russell. Er iddo gael clod am ei berfformiad yn erbyn Lloegr, doedd ddim ar ei orau. I ddeud y gwir roedd yn rhan o’r rheswm pam na wnaethon nhw ennill o fwy.

“Mae ganddo sgiliau gwych ac mae’n barod i roi cynnig ar bethau, ond dwi’n credu bydd Cymru yn edrych i dargedu ei gamgymeriadau ddydd Sadwrn.”

Oherwydd anafiadau mae Wayne Pivac wedi gwneud 5 newid i’r tîm gurodd Iwerddon 21-16 ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth.

“Mae colli George North yn ergyd enfawr,” meddai Gwyn Jones. “Dechreuodd Cymru yn erbyn Iwerddon gyda Johnny Williams a George North yng nghanol cae. Partneriaeth o faint a phŵer sylweddol yng nghanol cael lle mae’r naill neu’r llall yn gallu ennill brwydrau dros y llinell fantais. Ar ôl colli’r ddau, pwy sy’n mynd i groesi’r llinell fantais i Gymru nawr?

“Rwy’n dal i feddwl mai’r Alban yw’r ffefrynnau, bydd eu pennau yn uchel ar ôl buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Lloegr. Ond fyddwn i ddim yn synnu petai Cymru’n ennill.

“Roedd arwyddion clir eu bod wedi gwella yn erbyn Iwerddon, cam arall i’r cyfeiriad hwnnw ac ychydig o lwc a gallai Cymru ennill am yr eildro yn y Bencampwriaeth.”

Yr Alban v Cymru ar S4C brynhawn dydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 4.45.

Cymru eisiau talu’r pwyth yn ôl yn erbyn yr Albanwyr, medd Wyn Jones

“Ni’n gwybod pa mor fygythiol all yr Alban fod ers i ni eu chwarae nhw yn yr hydref”

Willis Halaholo, y Cymro balch o Seland Newydd

“Mae gen i ddwy ferch sydd wedi eu geni yma yng Nghymru – sy’n gwneud y wlad hon yn ran ohonaf ac yn ran o fy nghalon”