Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu’r Alban yn Stadiwm Murrayfield brynhawn Sadwrn.

Mae 5 newid i’r tîm gurodd Iwerddon 21-16 ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth.

Oherwydd anafiadau nid yw George North, Johnny Williams, Jonathan Davies, Hallam Amos na Tomos Williams wedi eu cynnwys.

Byddai George North wedi ennill ei ganfed cap ddydd Sadwrn – ond bydd rhaid i hynny aros, cafodd ei grafu ar ei lygad yn y fuddugoliaeth dros Iwerddon ac mae ganddo hefyd anaf i’w droed.

Golyga hyn mai Nick Tompkins ac Owen Watkin sydd yn dechrau yng nghanol cae, ac mae Liam Williams yn dychwelyd i’r asgell ar ôl cael ei wahardd am drosedd cerdyn coch tra’n chwarae i’r Scarlets.

Gareth Davies sydd yn dechrau fel mewnwr yn lle Tomos Williams.

Does dal dim hawl gan yr asgellwr Josh Adams i chwarae ar ôl cael ei wahardd am ddwy gêm am dorri rheolau Covid.

Aaron Wainwright sydd yn cymryd lle’r blaenasgellwr Dan Lydiate sydd wedi ei ryddhau o’r garfan ar ôl anafu ei ben-glin yn erbyn Iwerddon.

Gall y canolwr Willis Halaholo, a gafodd ei alw i’r garfan wythnos yma, ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

Mae James Botham hefyd yn ymuno a’r fainc yn lle Josh Navidi sydd wedi anafu.

‘Dechrau da i’r twrnamaint’

“Roeddem yn falch ddechrau’r twrnamaint gyda buddugoliaeth y penwythnos diwethaf,” meddai Wayne Pivac.

“Rydym yn parhau i adeiladu a symud ymlaen ac mae’n wych gwneud hynny ar ôl ennill.

“Rydym wedi dioddef anafiadau ond rydym yn gweld hyn mwy fel cyfle i’r rhai sy’n dod i mewn i’r tîm.

“Rhaid i mi gydnabod fy mod i’n teimlo trueni mawr dros Josh (Macleod) a ddewiswyd i ddechrau’r gêm, i ennill ei gap cyntaf, cyn cael ei ddiystyru yn ddiweddarach oherwydd anaf.”

Daeth i’r amlwg bod Josh MacLeod wedi’i enwi yn Rhif 6 i Gymru ddydd Mercher, ac yna torri gwäell ei ffer (achilles tendon) hanner awr yn ddiweddarach. Bydd allan am chwe mis.

Albanwyr yn llawn hyder

Mae Cymru yn ail yn y tabl ar hyn o bryd tu ôl i Ffrainc, ond bydd yr Albanwyr yn llawn hyder ar ôl curo Lloegr 6-11 yn Twickenham – eu buddugoliaeth gyntaf yno ers 1983.

Tri mis yn unig aeth heibio ers i Gymru wynebu’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.

Ar ôl colli’r gêm gafodd ei hail-drefnu fis Hydref o 10-14, mae’r prop Wyn Jones yn gobeithio y gall Cymru dalu’r pwyth yn ôl.

Tîm Cymru

Olwyr: 15. Leigh Halfpenny, 14. Liam Williams, 13. Nick Tompkins, 12. Owen Watkin, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Dan Biggar, 9. Gareth Davies

Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Adam Beard, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Aaron Wainwright , 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion16. Elliot Dee, 17. Rhodri Jones, 18. Leon Brown, 19. Will Rowlands, 20. James Bohan, 21. Kieran Hardy, 22. Callum Sheedy, 23. Willis Halaholo

Gemau Cymru yn y Chwe Gwlad:

Cymru v Iwerddon 21-16 Stadiwm Principality Chwefror 7
Yr Alban v Cymru Stadiwm Murrayfield Chwefror 13
Cymru v Lloegr Stadiwm Principality Chwefror 27
Yr Eidal v Cymru Stadio Olimpico Mawrth 13
Ffrainc v Cymru Stade de France Mawrth 20

Yr Alban v Cymru ar S4C am 4.00 brynhawn dydd Sul gyda’r gic gyntaf am 4.45.

Cymru eisiau talu’r pwyth yn ôl yn erbyn yr Albanwyr, medd Wyn Jones

“Ni’n gwybod pa mor fygythiol all yr Alban fod ers i ni eu chwarae nhw yn yr hydref”