Mae’r heddlu’n ymchwilio i neges hiliol tuag at chwaraewr canol cae Clwb Pêl-droed Abertawe.

Yn dilyn colled ei dîm yn erbyn Manchester City derbyniodd, Yan Dhanda, negeseuon hiliol ar wefannau cymdeithasol.

Cyfeiriodd Clwb Pêl-droed Abertawe’r digwyddiad at Heddlu De Cymru.

Mae Manchester City hefyd wedi condemnio’r digwyddiad gan ddweud y byddan nhw’n cefnogi’r heddlu.

‘Sut bod hyn dal yn digwydd yn 2021?’

“Sut bod hyn dal yn digwydd yn 2021?”, meddai Yan Dhanda mewn neges ar ei gyfri Twitter.

“Dwi mor falch o bwy ydw i a chynrychioli pobol Asiaidd. Rhaid gwneud mwy.”

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi rhyddhau datganiad am y mater:

“Fel clwb, rydym yn ymfalchïo ein bod yn gweithio gyda’r gymuned a’n cefnogwyr, yn ogystal â’r EFL a’r FA, ar ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth gan nad oes lle iddi mewn cymdeithas.

“Mae Dinas Abertawe’n condemnio hiliaeth a cham-drin o bob math, ac rydym yn annog cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i fynd y tu hwnt i hynny i ddileu’r lefel annormal hon o ymddygiad sy’n parhau i dargedu pêl-droed a’r gymdeithas ehangach.”

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau.

Logo Abertawe

Record i Manchester City wrth guro Abertawe

3-1 ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr – eu pymthegfed buddugoliaeth yn olynol