Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi colli o 3-1 yn erbyn Manchester City ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr yn Stadiwm Liberty.

Roedd pum newid yn nhîm yr Elyrch a saith yn nhîm yr ymwelwyr wrth i’r ddau dîm ganolbwyntio ar eu hymgyrchoedd yn y gynghrair – gyda thîm Steve Cooper yn parhau i wthio am ddyrchafiad o’r Bencampwriaeth.

Daliodd yr Elyrch eu tir yn gadarn am hanner awr cyn gôl ryfedd Kyle Walker, a lwyddodd i osod y bêl rhwng yr amddiffynwyr gyda hanner croesiad i’r rhwyd.

Daeth eu cyfle gorau i unioni’r sgôr wrth i Jay Fulton benio’r bêl dros y trawst, ac fe gafodd Jamal Lowe gynnig a gafodd ei atal gan Eric Garcia a daeth yr hanner i ben heb yr un ergyd at y targed i’r tîm cartref.

Os oedd yr Elyrch yn dal i fod yn obeithiol ar ddiwedd yr hanner cyntaf, fe wnaeth y gobeithion hynny bylu yn gynnar yn yr ail hanner, wrth i Raheem Sterling ddyblu mantais yr ymwelwyr o fewn dwy funud, gyda Rodri yn rhwygo’r amddiffyn i Sterling gael rhwydo yn y gornel.

Daeth y drydedd gôl yn fuan wedyn wrth i Gabriel Jesus ddarganfod ei ffordd drwy’r cyrff amddiffynnol yn y cwrt cosbi.

Gyda’r ornest ar ben i bob pwrpas, daeth sawl eilydd i’r cae, gan gynnwys Morgan Whittaker, yr ymosodwr ifanc o Derby, ac fe sgoriodd ei gôl gyntaf yn fuan wedyn wrth reoli croesiad gan Ryan Manning, troi ar ei sawdl a rolio’r bêl heibio i Zack Steffen yn y gôl.

Gôl gysur oedd hi, serch hynny, a bydd sylw’r Elyrch nawr yn troi’n ôl at y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw deithio i Sheffield Wednesday ymhen tridiau.

Record newydd

Mynd o nerth i nerth mae tymor Manchester City.

Maen nhw wedi curo record gyda’u pymthegfed buddugoliaeth o’r bron – y nifer fwyaf yn olynol i dîm yn y brif adran ar draws yr holl gystadlaethau.

Dechreuodd y rhediad wrth iddyn nhw guro Southampton o 1-0 ar Ragfyr 19, ac mae’n cynnwys dwy fuddugoliaeth yng Nghwpan Carabao a thair buddugoliaeth yng Nghwpan FA Lloegr.

Mae’n curo’r record flaenorol o 14 gan Preston rhwng Hydref 1891 a Ionawr 1892, ac Arsenal rhwng Medi a Thachwedd 1987 – deg ohonyn nhw yn yr hen Adran Gyntaf – ac fe gyrhaeddon nhw ffeinal Cwpan y Gynghrair y tymor hwnnw hefyd.